Fe gyhoeddodd Morgannwg ddoe ei bod wedi arwyddo cyn fatiwr Caint a De Affrica Martin Van Jaarsveld ar gyfer y gystadleuaeth ugain pelawd.

Fe chwaraeodd Van Jaarsveld 110 o gemau i Gaint ar ôl ymuno â nhw yn 2005.  Yn y gemau undydd, sgoriodd 8,028 o rediadau ar gyfartaledd o 46.67, ac fe sgoriodd 5,431 o rediadau yng nghystadleuaeth yr ugain pelawd.

Yn ystod ei yrfa, fe chwaraeodd Van Jaarsveld cyfanswm o 118 o gemau yng nghystadleuaeth yr ugain pelawd.

‘‘Mae Martin yn brofiadol ac yn gricedwr o safon uchel.  Ac mae ei ystadegau yn dweud y cyfan,’’ meddai Matthew Mott sy’n bennaeth perfformiad elitaidd ar Forgannwg.