Fe fydd Morgannwg yn teithio i Gaergaint heno i herio Caint wrth iddyn nhw geisio’u buddugoliaeth gyntaf yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast.
Tra bod Ruaidhri Smith yn cael cyfle arall i serennu ar ôl cipio tair wiced yn erbyn Surrey, mae Kiran Carlson, y batiwr o Gaerdydd, allan o hyd ag anaf i’w ochr ond y gobaith yw y bydd e ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn Essex nos Wener.
Hon fydd gêm olaf ond un Fakhar Zaman, y batiwr llaw chwith o Bacistan, tra bod disgwyl i Shaun Marsh chwarae yn ei ail gêm i’r sir ers dychwelyd yr wythnos hon.
Gemau’r gorffennol
Tra na chafodd y gêm yn erbyn Caint yng Nghaerdydd y llynedd ei chynnal oherwydd y glaw, Morgannwg oedd yn fuddugol yng Nghaergaint yn 2017, a hynny o 25 o rediadau.
Mae Caint yn gydradd ail yn y tabl, ac yn mynd am le yn rownd yr wyth olaf, tra bod Morgannwg yn dal heb fuddugoliaeth ar waelod y tabl.
Mae Caint wedi ennill chwe gêm hyd yn hyn, ond wedi colli tair allan o’u pedair gêm ddiwethaf.
Mae gan y Saeson dîm cryf, gyda nifer o chwaraewyr rhyngwladol, gan gynnwys Sam Billings a Mohammad Nabi, ynghyd â bowlwyr cyflym fel Adam Milne a Hardus Viljoen, sy’n gallu cyrraedd cyflymdra o 90 milltir yr awr yn gyson.
Angladd Malcolm Nash
Yn y cyfamser, mae manylion angladd Malcolm Nash wedi cael eu cyhoeddi.
Bu farw’r cyn-chwaraewr amryddawn yn 74 oed ar Orffennaf 30.
Bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal yn Eglwys St. James yn ardal yr Uplands yn Abertawe am 1 o’r gloch ar ddydd Mawrth, Awst 27.
Bydd lluniaeth ar ôl y gwasanaeth yn San Helen, lle daeth yn fyd-enwog am gael ei daro am chwech chwech gan Garfield Sobers mewn gêm rhwng Morgannwg a Swydd Nottingham yn 1968 – y tro cyntaf erioed i’r gamp honno gael ei gyflawni.
Carfan Caint: S Billings (capten), D Bell-Drummond, A Blake, M Claydon, J Cox, Z Crawley, F Klaasen, H Kuhn, Mohammad Nabi, M O’Riordan, Imran Qayyum, O Robinson, H Viljoen
Carfan Morgannwg: D Lloyd, Fakhar Zaman, S Marsh, C Ingram (capten), C Cooke, K Carlson, C Taylor, D Douthwaite, G Wagg, R Smith, A Salter, M de Lange, L Carey