Mae Michael Hogan wedi llofnodi cytundeb newydd a fydd yn ei gadw gyda Chlwb Criced Morgannwg tan ddiwedd y tymor nesaf.
Mae’r bowliwr cyflym yn rhan allweddol o’r garfan, ac yn gyn-gapten ar y tîm yn y Bencampwriaeth.
Mae e wedi cipio ugain wiced yn y Bencampwriaeth y tymor hwn ar gyfartaledd o 21.50, gan gynnwys saith am 73 yn ystod y fuddugoliaeth yn erbyn Swydd Gaerloyw ym Mryste.
Ymunodd yr Awstraliad â’r sir yn 2012, ac fe gafodd ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn yn 2013 a 2014.
Mewn 88 o gemau dosbarth cyntaf, mae e wedi cipio 344 o wicedi ar gyfartaledd o 22.51, gan gipio pum wiced mewn batiad 16 o weithiau.
Daeth ei ffigurau gorau mewn gêm, deg wiced am 87, yn erbyn Swydd Caint yn 2017.
Mae e hefyd wedi cipio 93 o wicedi mewn gemau ugain pelawd, ar gyfartaledd o 22, a daeth ei ffigurau gorau o bum wiced am 17 yn erbyn Swydd Gaerloyw yn 2017, wrth i’r sir gyrraedd Diwrnod y Ffeinals.
‘Hapus iawn ac wedi cyffroi’
“Dw i’n hapus iawn ac wedi cyffroi o gael llofnodi am flwyddyn arall gyda’r clwb,” meddai Michael Hogan.
“Mae bob amser yn ddiddorol wrth fynd yn hŷn, a dydych chi ddim yn gwybod sut fydd eich corff yn ymdopi ar ôl gemau ond eleni, mae ein polisi o gylchdroi’r bowlwyr cyflym wedi fy nghadw i’n ffres a dw i’n teimlo’n dda.
“Dw i’n dal i deimlo y galla i chwarae ar lefel uchel iawn, a dw i wedi perfformio’n dda eleni, a does dim rheswm pam na alla i barhau i wneud hynny ym mhob fformat y tymor nesaf.”
‘Newyddion gwych’
“Mae’n newyddion gwych fod Michael wedi ymestyn ei gyfnod gyda Morgannwg am dymor arall,” meddai Mark Wallace, cyfarwyddwr criced y sir.
“Mae e wedi bod yn fowliwr gwych i’r clwb ym mhob fformat ers iddo fe gyrraedd, ac mae e wedi dangos y tymor hwn ei fod e’n dal yn gallu perfformio er mwyn ennill gemau.
“Fe yw arweinydd y bowlwyr a gyda’i brofiad a’i record, fe hefyd yw’r person yn yr ystafell newid y mae pawb yn edrych i fyny ato fe.
“Edrychwn ymlaen i’w weld e’n parhau i berfformio’n gampus dros y misoedd nesaf, wrth i ni barhau i wthio am ddyrchafiad, ac yn ein hymgyrch yn y Vitality Blast, a pharhau â hynny y flwyddyn nesaf.”