Trechodd Lloegr dîm Bangladesh o 106 o rediadau yng Nghwpan Criced y Byd yng Nghaerdydd neithiwr (nos Sadwrn, Mehefin 8).
Sgoriodd Jason Roy 153 wrth i Loegr gyrraedd 386 am chwech yn eu 50 pelawd.
Doedd 121 gan Shakib Al Hasan ddim yn ddigon i Bangladesh, sydd bellach wedi ennill un gêm ond colli dwy yn y gystadleuaeth, tra bod Lloegr wedi ennill dwy a cholli un.
Batio penigamp
Ar ôl dechrau’n bwyllog yn y pum pelawd cyntaf, cyflymodd Lloegr fel eu bod nhw’n cyrraedd 68-0 ar ddiwedd y cyfnod clatsio cyntaf, eu cyfnod clatsio gorau yn y gystadleuaeth hyd yn hyn.
Daeth hanner canred Jason Roy – ei ail yn y gystadleuaeth a’i bumed mewn chwe batiad – oddi ar 38 o belenni, ar ôl iddo glatsio saith pedwar ac un chwech mewn partneriaeth o 128 gyda Jonny Bairstow.
Hon oedd yr ail bartneriaeth o dros 100 yn y gystadleuaeth yng Nghaerdydd, ar ôl Martin Guptill a Colin Munro (137) i Seland Newydd yn erbyn Sri Lanca.
Yn wyneb ychydig iawn o fygythiad gan fowlwyr Bangladesh, sgoriodd Jonny Bairstow 51 oddi ar 50 belenni, gan gynnwys chwe phedwar, cyn cael ei ddal oddi ar ymyl ei fat gan Mehedy Hasan.
Cyrhaeddodd Jason Roy ei ganred oddi ar 92 o belenni, ar ôl taro 12 pedwar ac un chwech – a llorio’r dyfarnwr wrth gyrraedd y garreg filltir!
Aeth e y tu hwnt i sgôr unigol gorau’r gystadleuaeth ar 128 heb fod allan, ac yna’r sgôr unigol gorau erioed gan fatiwr mewn gêm undydd ryngwladol yng Nghaerdydd (142).
Cerrig milltir
Roedd Jason Roy allan am 153, wedi’i ddal gan Mashrafe Mortaza yn y cyfar ychwanegol oddi ar fowlio Mehedy Hasan, a’i fatiad yn cynnwys 14 pedwar a phum chwech (tair yn olynol).
Cyrhaeddon nhw’r 300 ym mhelawd rhif 43, y trydydd tro yn y gystadleuaeth iddyn nhw gyrraedd y garreg filltir, wrth i Jos Buttler gyrraedd ei hanner canred oddi ar 33 o belenni.
Ond daeth ei bartneriaeth o 95 gyda’i gapten Eoin Morgan i ben pan dynnodd e belen gan Mohammad Saifuddin at Soumya Sarkar ar y ffin.
Aeth y capten yn fuan wedyn, wedi’i ddal yn gampus gan Soumya Sarkar oddi ar fowlio Mehedy Hasan am 35, a’r sgôr yn 340 am bump.
Pan darodd Chris Woakes chwech ym mhelawd rhif 48, aeth Lloegr y tu hwnt i’r cyfanswm mwyaf erioed mewn gêm undydd ryngwladol, a’r sgôr gorau yn y gystadleuaeth hon hyd yn hyn.
Adeiladodd Chris Woakes a Liam Plunkett bartneriaeth seithfed wiced o 45 i gyrraedd 386.
Gormod o her i Bangladesh
Belen yn unig ar ôl goroesi cyfle am ddaliad i Joe Root yn y slip, cafodd Soumya Sarkar ei fowlio gan Jofra Archer am ddau yn y bedwaredd pelawd, a’r sgôr yn wyth am un.
Adeiladodd Tamim Iqbal a Shakib Al Hasan bartneriaeth o 50 erbyn y deuddegfed pelawd, ond roedden nhw eisoes y tu ôl i’r gyfradd ddisgwyliedig ac yn wynebu cryn her i ddod yn agos i’r nod.
Roedd ymhellach fyth i ffwrdd pan gafodd Tamim Iqbal ei ddal gan Eoin Morgan yn safle’r cyfar ychwanegol oddi ar fowlio Mark Wood am 19, a’r sgôr yn 63 am ddwy.
Llwyddodd Shakib Al Hasan i gyrraedd ei hanner canred i gadw ei record 100% yng Nghwpan y Byd hyd yn hyn.
Un wiced ar ôl y llall
Roedd Shakib Al Hasan a Mushfiqur Rahim wedi adeiladu partneriaeth o 100 erbyn pelawd rhif 29, eu hail bartneriaeth o’r fath yn y gystadleuaeth, ond roedd gobeithion eu tîm o ennill wedi hen bylu erbyn i Mushfiqur golli ei wiced, a’r sgôr yn 169 am dair.
Dilynodd Mohammad Mithun bedair pelen yn ddiweddarach, pan gafodd ei ddal gan y wicedwr Jonny Bairstow oddi ar fowlio’r troellwr coes Adil Rashid heb sgorio.
Cyrhaeddodd Shakib Al Hasan ei ganred yn ofer, oddi ar 95 o belenni, ar ôl taro naw pedwar ac un chwech, a’i dîm erbyn hynny’n 179 am bedair, ac fe gafodd ei ollwng gan Joe Root ar 120 cyn cael ei fowlio gan Ben Stokes am 121.
Cwympodd pedair wiced wedyn o fewn 5.1 pelawd.
Cyfunodd Jonny Bairstow a Jofra Archer i waredu’r ddau fatiwr olaf ar 280.