Mae gêm Bencampwriaeth Morgannwg yn erbyn Sussex yn Hove yn debygol o orffen yn gyfartal ddi-ganlyniad ar y diwrnod olaf heddiw (dydd Iau, Mai 30).

Bydd Morgannwg yn dechrau’r diwrnod olaf ar 218 am un yn eu hail fatiad, 16 rhediad y tu ôl i’r Saeson.

Dim ond 21 pelawd oedd yn bosib ar y trydydd diwrnod oherwydd y glaw, sy’n golygu y gallai Morgannwg barhau’n ddi-guro mewn gemau pedwar diwrnod y tymor hwn.

Er i’r trydydd diwrnod gael ei gwtogi’n sylweddol, cafodd yr Awstraliad Marnus Labuschagne gyfle i gyrraedd ei ganred, gan orffen ar 131 heb fod allan.

Dyma’i drydydd canred y tymor hwn, ar ôl sgorio 121 yn erbyn Swydd Northampton a 137 yn erbyn Swydd Gaerloyw, a’i seithfed yn ei yrfa dosbarth cyntaf.

Mae e wedi ychwanegu 218 at y sgôr am yr ail wiced mewn partneriaeth â Nick Selman, oedd wedi cario’i fat yn y batiad cyntaf. Mae e heb fod allan ar 64, ar ôl i’r pâr sgorio 81 rhediad ar y trydydd diwrnod.

Mae’r bartneriaeth 20 rhediad yn brin o’r record i Forgannwg ar gyfer yr ail wiced yn erbyn Sussex, a gafodd ei gosod gan Alan Jones a Tony Lewis yn Hastings yn 1962.

Sgorfwrdd