Mae Dan Douthwaite, myfyriwr ym Mhrifysgol Caerydd, wedi’i gynnwys ym mhrif garfan griced Morgannwg lai nag wythnos ers iddo ymuno â’r sir.

Maen nhw’n herio Surrey yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London yn y brifddinas yfory (dydd Sul, Ebrill 28), ac fe fydd y chwaraewr 22 oed yn wynebu’r sir lle y gwnaeth e feithrin ei sgiliau fel aelod o’r rhaglen ddatblygu.

Mae e wedi ymuno â Morgannwg ar gytundeb tair blynedd sy’n dod i ben yn 2021.

Mae e’n fowliwr lled gyflym llaw dde sy’n batio yng nghanol y rhestr, ac mae e eisoes wedi creu argraff y tymor hwn wrth gynrychioli Prifysgolion Caerdydd yr MCC.

Tarodd e ganred yn erbyn Sussex, cyn sgorio 95 a chipio dwy wiced mewn gêm baratoadol yn erbyn Morgannwg ar drothwy’r tymor newydd.

Mae e eisoes wedi chwarae mewn un gêm undydd i Swydd Warwick, gan daro 38 oddi ar 24 o belenni a chipio tair wiced yn erbyn tîm ‘A’ India’r Gorllewin.

Roedd e hefyd wedi cynrychioli’r MCC y tymor diwethaf.