Mae David Lloyd, chwaraewr amryddawn tîm criced Morgannwg, yn credu y gall y sir roi’r siom o golli o ddau rediad yn erbyn Gwlad yr Haf y tu ôl iddyn nhw yng ngweddill cystadleuaeth Cwpan Royal London.
Ar ôl bod yn 21 am bump ar un adeg yn y gêm, tarodd Morgannwg yn ôl i golli o ddim ond dau rediad.
Ond roedd y perfformiadau’n golygu bod tri batiwr – Marnus Labuschagne, Charlie Hemphrey a Kiran Carlson – wedi’u gostwng i’r ail dîm ar gyfer gornest yn erbyn ail dîm Gwlad yr Haf ddoe (dydd Mawrth, Ebrill 23).
Ar ôl taro 68 yn erbyn Hampshire, sgoriodd David Lloyd 84 oddi ar 93 o belenni yn erbyn Gwlad yr Haf, wrth i Graham Wagg sgorio 62 a Lukas Carey 39 tua’r diwedd ddydd Sul.
Ond mae Morgannwg yn dal heb fuddugoliaeth mewn gemau undydd y tymor hwn, ac fe fyddan nhw’n herio Swydd Caint, a gollodd yn y rownd derfynol y llynedd, yng Nghaerdydd ddydd Iau.
“Dangosodd yr hogia gryn gymeriad,” meddai David Lloyd, sy’n hanu o Lanelwy.
“Roedd cael yn agos at eu sgôr nhw o le’r oeddan ni’n dipyn o gamp gan yr hogia, ac yn rhywbeth fedrwn ni fynd ymlaen efo ni i’r gêm nesa’.
“Mi ddangoson nhw gryn sgil a chymeriad i gyrraedd lle gwnaethon nhw, ac maen nhw’n haeddu cryn dipyn o glod am yr hyn wnaethon nhw, ond fedrwn ni ddim dibynnu arnyn nhw i’n hachub ni eto.”
Perfformiad unigol yn ‘amherthnasol’
“Mae bob amser yn braf cael rhediadau ond os nad ydan ni’n cael y canlyniadau sydd eu hangen arnon ni, mae [perfformiadau personol] ychydig yn amherthnasol,” meddai wedyn.
“Mi fasa hi’n braf tasa un ohonon ni wedi medru gorffen y gêm ond medrwn ni weithio ar hynny a mynd i mewn i’r gêm nesa’ a mynd yn ddyfnach iddi.”
Roedd cryn hyder gan Forgannwg ar ddechrau’r tymor, ac roedd Matthew Maynard, y prif hyfforddwr dros dro, yn credu’n gryf fod y garfan mewn sefyllfa gryfach nag y buon nhw ers sawl tymor.
Ond mae David Lloyd yn dweud bod nifer o’r batwyr wedi dechrau colli hyder erbyn hyn.
“Os fedrwn ni ddechrau’n dda, rydan ni wedi dangos yng nghanol y rhestr fatio a thua’r diwedd ein bod ni’n medru dal i frwydro.
“Os medrwn ni gael trwy’r deg pelawd gyntaf a cholli un wiced yn unig, yna rydan ni’n fwy tebygol o ennill gemau.
“Fedrwn ni ddim disgwyl colli dwy neu dair [wiced] a llwyddo. Mae hynny’n anodd.
“O ran batio, mater o sgorio rhediadau ydi hi. Mae’r fformiwla’n iawn, ond mae pobol yn brin o hyder. Mae’r pethau hynny’n digwydd.”
‘Tipyn o her’
Mae hi ar ben ar Forgannwg, i bob pwrpas, yn y gystadleuaeth 50 pelawd, oni bai eu bod nhw’n ennill pob un o’r pum gêm sy’n weddill.
“Mae’n dipyn o her, ond mi gymerwn ni bob gêm a chwilio am y fuddugoliaeth gynta’ honno,” meddai David Lloyd.
“Unwaith rydach chi’n cael y fuddugoliaeth gynta’, gobeithio bod modd bwrw iddi wedyn – gawn ni weld!”
Gallai tynged Morgannwg ddibynnu’n helaeth ar ei berfformiadau wrth fatio’n bedwerydd yn y rhestr, rôl y mae’n dweud iddo ddod i deimlo’n gyfforddus yn ei chyflawni.
“Dw i flwyddyn yn hŷn eto, dw i’n dod i wybod mwy am fy ngêm bob blwyddyn a chadw at gynllun chwarae a cheisio batio.
“Mae’n amlwg yn anodd pan ydach chi’n colli wicedi, ond rydach chi’n brwydro dros y tîm, sy’n medru helpu.
“Ar hyn o bryd, dw i’n sgorio rhediadau, ond mi fydd hynny’n newid a bydd rhywun arall yn sgorio rhediadau wrth i fi fynd drwy gyfnod hesb.
“Rhaid i chi gymryd pob gêm fel y daw, a pharhau i weithio’n galed wrth ymarfer, a cheisio parhau i berfformio yn y gemau.”