Mae siâp y tymor criced yn cael ei newid yn sgil cystadleuaeth newydd sy’n dod i Gaerdydd a nifer o ddinasoedd Lloegr yn 2020.
Mae’r 18 sir sy’n chwarae criced dosbarth cyntaf, gan gynnwys Morgannwg, wedi cytuno i gyfres o newidiadau i’r tymor.
Fel rhan o adolygiad, roedd gofyn i’r siroedd ystyried:
* Strwythur Pencampwriaeth y Siroedd
* Nifer y gemau yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast
* Pa fformat ddylai’r siroedd ei chwarae yn ystod y gystadleuaeth ddinesig
* Tynnu’r Siroedd Llai i mewn i gystadlaethau dosbarth cyntaf
O ganlyniad i’r adolygiad, cafodd yr argymhellion canlynol eu cyflwyno a’u derbyn.
Y Bencampwriaeth
Fe fydd pob sir yn parhau i chwarae 14 o gemau yn ystod yr ymgyrch – saith gartref a saith oddi cartref.
Ar ddiwedd y gystadleuaeth, bydd tair sir yn ennill dyrchafiad o’r ail adran, ac un tîm yn gostwng o’r adran gyntaf. Ar hyn o bryd, dwy sy’n cael eu dyrchafu, a dwy sy’n gostwng.
Oherwydd na fydd pob sir yn herio’i gilydd ddwywaith yn y Bencampwriaeth, fe fydd y siroedd fydd ond yn herio’i gilydd unwaith yn cael eu dewis ar sail rhestr o ddetholion.
Y gystadleuaeth 50 pelawd
O 2020 ymlaen, bydd y gystadleuaeth 50 pelawd sirol yn cael ei chynnal ar yr un pryd â’r gystadleuaeth ddinesig newydd yng Ngorffennaf ac Awst.
Bydd y siroedd mewn dwy adran o naw tîm yr un – ond nid o reidrwydd fesul De a Gogledd – a’r tair sir uchaf ym mhob adran yn cyrraedd y rowndiau terfynol.
Unwaith yn unig fydd pob sir yn herio’i gilydd – pedair gêm gartref a phedair gêm oddi cartref.
Fydd dim hawl gan chwaraewyr tramor chwarae yn y gystadleuaeth hon.
Y gystadleuaeth 20 pelawd
Fydd strwythur y gystadleuaeth ugain pelawd sirol ddim yn newid, gyda’r siroedd wedi’u rhannu’n ddwy adran o naw sir (De a Gogledd), a phob sir yn chwarae 14 o gemau – saith gartref a saith oddi cartref.
Bydd y pedair sir uchaf ym mhob grŵp yn cystadlu yn rownd yr wyth olaf, a’r pedair sir fuddugol yn cystadlu ar Ddiwrnod y Ffeinals yn Edgbaston.
Y Siroedd Llai
O 2020 ymlaen, bydd y Siroedd Llai (gan gynnwys Cymru) yn cystadlu yn rownd gynta’r gystadleuaeth 50 pelawd sirol – a phob un o’r Siroedd Llai yn herio un o’r siroedd dosbarth cyntaf am le yn yr ail rownd.