Llwyddodd batwyr Morgannwg i gwrso 195 er mwyn curo Surrey o bedair wiced yn eu gêm ugain pelawd yn y Vitality Blast ar gae’r Oval yn Llundain neithiwr (nos Fawrth, Gorffennaf 31).

Cyrhaeddon nhw’r nod gyda phelawd yn weddill, a hynny ar ôl i Surrey alw’n gywir a phenderfynu batio’n gyntaf.

Y chwaraewr amryddawn Graham Wagg oedd seren y gêm o flaen camerâu SKY Sports, ar ôl cipio un wiced am 21 yn ei bedair pelawd wrth i Surrey sgorio 194, cyn taro 46 heb fod allan oddi ar 26 o belenni gyda’r bat i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Roedd ei fatiad yn cynnwys tri chwech oddi ar belenni olynol – camp a gafodd ei hefelychu gan Craig Meschede, wrth iddo yntau daro 43 oddi ar 19 o belenni.

Ond tarodd Kiran Carlson 58 oddi ar 32 o belenni – ei hanner canred cyntaf mewn gêm ugain pelawd i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Morgannwg yn parhau’n ddiguro mewn gemau ugain pelawd yn erbyn Surrey – gyda chwe buddugoliaeth ac un gêm gyfartal yn sgil y glaw.

Cyfnod clatsio ffrwydrol – ond cyfyngu Surrey

Ar ôl i Surrey sgorio 54 yn y cyfnod clatsio, collon nhw’r ddau agorwr, Aaron Finch a Jason Roy mewn pelawdau olynol.

Cafodd Finch ei ddal gan Graham Wagg oddi ar fowlio Timm van der Gugten am 30 yn y chweched pelawd, cyn i Jason Roy gael ei ddal gan Aneurin Donald ar y ffin ar ôl taro pelen gan y troellwr Andrew Salter i’r ffin y tu ôl i’r bowliwr ar ochr y goes.

Erbyn hynny, roedd Surrey yn 58 am ddwy yn y seithfed pelawd, ac roedd Morgannwg yn dechrau rheoli’r gêm.

Daeth rhywfaint o achubiaeth i Surrey diolch i Nic Maddinson, ond fe gafodd ei redeg allan yn y belawd olaf ar ôl taro tri chwech a phum pedwar oddi ar 45 o belenni i gyrraedd 70.

Ond fe allai e fod wedi cael ei ddal gan y bowliwr Graham Wagg ar 31 pe na bai e wedi cael ei ollwng hanner ffordd i lawr y llain.

Adeiladodd e bartneriaeth o 57 mewn chwe phelawd a hanner gyda’r wicedwr Ben Foakes am y drydedd wiced cyn i Foakes gael ei ddal gan Nick Selman wrth daro ergyd syth tuag at y ffin ar ochr y goes.

Aeth Maddinson ymlaen wedyn i adeiladu partneriaeth o 71 oddi ar 37 o belenni gydag Ollie Pope, wrth i Surrey sgorio 57 oddi ar bum pelawd ola’r batiad.

Batio’n gadarn a chwrso’n llwyddiannus

Collodd Morgannwg y ddau agorwr, Aneurin Donald ac Usman Khawaja am 15 o fewn tair pelawd – y naill wedi’i ddal gan Aaron Finch yn safle’r goes fain oddi ar fowlio Jade Dernbach, a’r llall wedi’i ddal ar ochr y goes wrth yrru’n syth ar Gareth Batty oddi ar fowlio Tom Curran.

Tarodd Craig Meschede dri chwech oddi ar dair pelen gynta’r troellwr Gareth Batty cyn cael ei ddal yn safle’r trydydd dyn wrth fentro am bedwerydd chwech yn olynol.

Dim ond pump sgoriodd Chris Cooke, y capten dros dro yn absenoldeb Colin Ingram oherwydd salwch. Cafodd ei ddal ar ochr y goes gan Tom Curran wrth dynnu’r troellwr coes Scott Borthwick.

Hanner ffordd trwy’r batiad, roedd angen 101 ar Forgannwg oddi ar 60 o belenni, ac fe ddechreuodd Craig Meschede yn gadarn wrth daro tri chwech yn olynol oddi ar fowlio Scott Borthwick.

Dyna, efallai, oedd y trobwynt yn y batiad wrth i Forgannwg edrych yn gyfforddus wrth barhau i glatsio am y fuddugoliaeth.

Ond daeth y batiad pwysicaf un gan y batiwr 20 oed o Gaerdydd, Kiran Carlson, wrth iddo fe daro 58 oddi ar 32 o belenni – ei hanner canred cyntaf mewn gêm ugain pelawd. Roedd ei fatiad yn cynnwys pum pedwar a phedwar chwech.

Erbyn iddo fe golli ei wiced yn y bymthegfed pelawd, roedd e wedi adeiladu partneriaeth allweddol o 63 oddi ar 31 o belenni gyda Graham Wagg.

Roedd angen 12 rhediad ar Forgannwg pan gafodd Nick Selman ei ddal gan Scott Borthwick ar yr ochr agored wrth yrru pelen araf gan Tom Curran, ac yntau wedi sgorio 16.

Swydd Gaerloyw yw gwrthwynebwyr nesaf Morgannwg, wrth iddyn nhw eu croesawu i Erddi Sophia nos Wener. Mae disgwyl i Colin Ingram ddychwelyd erbyn hynny, ond fe fydd Joe Burns allan o hyd ar ôl anafu ei gefn.

Daeth cadarnhad hefyd y bydd Usman Khawaja yn dychwelyd i Awstralia’n gynt na’r disgwyl, a hynny ar ôl i Forgannwg herio Swydd Gaerloyw nos Wener, a Middlesex yn Richmond ddydd Sul.