Fe fydd Morgannwg yn teithio i Swydd Hampshire nos Wener ar gyfer eu gêm gyntaf yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast.
Cawson nhw ymgyrch lwyddiannus y tymor diwethaf, wrth gyrraedd rowndiau terfynol y gystadleuaeth, er iddyn nhw golli yn erbyn y Birmingham Bears yn y rownd gyn-derfynol ar Ddiwrnod y Ffeinals yn Edgbaston.
Yn ystod gemau’r grŵp, roedd y Cymry’n fuddugol mewn saith gêm ac wedi colli dim ond tair.
Cystadleuaeth ffres
Ar ôl dechrau digon siomedig i’r tymor yn y Bencampwriaeth a’r gystadleuaeth 50 pelawd, y Vitality Blast yw cyfle olaf Morgannwg i ennill tlws y tymor hwn.
Ond fydd dechrau’r tymor ddim yn cael effaith ar y tîm yn ystod y gystadleuaeth hon, yn ôl y prif hyfforddwr Robert Croft.
“R’yn ni’n defnyddio strategaeth wahanol. Roedd yr ymgyrch 50 pelawd yn un siomedig o a doedden ni ddim wedi disgwyl hynny. Efallai bydd y gystadlaeuth hon yn bwysicach nawr.
“R’yn ni’n gobeithio trin yr ymgyrch yma fel un ar ei phen ei hun a chwarae’n dda.”
Cyrhaeddodd Morgannwg Ddiwrnod y Ffeinals y gystadleuaeth ugain pelawd y tymor diwethaf, gan golli yn y pen draw yn erbyn y Birmingham Bears yn y rownd gyn-derfynol yn Edgbaston. Ond yn ôl Robert Croft, mae’r tîm yn symud yn y cyfeiriad cywir.
“Y disgwyl yw y byddwn ni’n chwarae’n dda. Fe welson ni gynnydd dros y ddau dymor diwetha’, felly hoffen ni weld perfformiadau o safon unwaith eto a gobeithio y gwnawn ni gynnydd.
“Rhaid i ni herio’n gilydd i wella a pheidio â gorffwys ar ein rhywfau.
“Mae potensial o safbwynt Usman [Khawaja], Shaun [Marsh] a Colin [Ingram] sy’n gyfarwydd â batio ar frig y rhestr fatio ar lefel uchel iawn. Mae siawns dda y byddan nhw’n cerdded allan yn y safleoedd hynny.
“Ond dw i hefyd yn gyfforddus iawn gyda phrofiad ein chwaraewyr iau yn y fformat yma felly yng nghanol y batiad, bydd cyfleoedd i wynebau newydd ddod i mewn.”
Batwyr gorau’r byd
Y tro hwn, mae ganddyn nhw dri o fatwyr gorau’r byd – Shaun Marsh, Colin Ingram ac Usman Khawaja.
Yn ôl Usman Khawaja, y batiwr llaw chwith o Awstralia, mae ganddyn nhw’r chwaraewyr a’r sgiliau i ailadrodd eu llwyddiant unwaith eto – ac yntau eisoes wedi taro tri chanred yn y Bencampwriaeth.
“Mae’r T20 yn wahanol iawn i griced pedwar diwrnod,” meddai. “Mae’n fformat sy’n dibynnu ar fod yn dîm, lle mae pawb yn cydweithio tuag at yr un nod mewn awyrgylch anhunanol.
“Does gyda chi fawr ddim amser – os o gwbl – i setlo ond wedi dweud hynny, nid clatsio yw popeth mewn criced T20. Rydych chi’n dewis y bowliwr [i fod yn ymosodol yn ei erbyn] ac yn addasu yn ôl yr angen.”
Bowlio’n bwysig hefyd
Er bod y gêm ugain pelawd yn cael ei hystyried yn un i’r batwyr yn bennaf, mae Usman Khawaja o’r farn fod angen i’r bowlwyr fod ar eu gorau hefyd.
“Ymhlith ein bowlwyr, mae Michael Hogan yn un o’r bowlwyr mwyaf talentog yn y gêm, tra bod Graham Wagg yn brofiadol dros ben.”
Taith i Southampton i ddechrau
Fe fydd ymgyrch Morgannwg yn dechrau yn erbyn Swydd Hampshire yn Southampton, lle cawson nhw eu perfformiad gwaethaf yn y gystadleuaeth hon y tymor diwethaf.
Collon nhw o wyth wiced wrth gael eu bowlio allan am 118, cyn i’r Saeson sicrhau’r fuddugoliaeth mewn llai na 14 pelawd.
Maen nhw’n teithio yno eleni, wythnos yn unig ar ôl i Swydd Hampshire godi cwpan Royal London, y gystadleuaeth 50 pelawd.
Fe fydd gêm gartref gyntaf Morgannwg ddydd Sul yn erbyn Siarcod Swydd Sussex yng Nghaerdydd, a’r tîm hwnnw’n cynnwys dau fowliwr ifanc addawol – y bowliwr cyflym o Loegr, Jofra Archer a’r troellwr coes o Afghanistan, Rashid Khan.