Mae dyn o Brestatyn newydd gwblhau marathon yng ngwres Cenia – ond yn dweud bod y profiad o helpu plentyn tlawd yn un sy’n gwneud iddo deimlo’n “wylaidd”.
Teithiodd Luke Gratton i Affrica gyda’i wraig a’u meibion er mwyn cwblhau her y Muskathlon i godi arian at elusen Compassion UK, sy’n helpu plant sy’n byw mewn tlodi yn nwyrain y wlad.
Mae Luke, sy’n gweithio i gwmni npower, yn rhedwr di-brofiad ac fe ddechreuodd e baratoi at y marathon drwy redeg 5km yn ystod ei awr ginio yn y gwaith, gan gynyddu’n raddol i bellter o 10km ac yna hanner marathon.
Fe fu’n ymarfer yn bennaf yn ardaloedd Prestatyn a’r Rhyl, ac fe gafodd ei annog i ymgymryd â her y Muskathlon gan ei wraig, oedd wedi ei chwblhau y llynedd.
Fe deithiodd i Affrica fis diwethaf ynghyd â 55 o bobol eraill o wledydd Prydain ar gyfer y ras. Roedd ganddyn nhw ddewis o blith rasys hanner marathon, marathon, uwch-farathon, seiclo 120km neu gerdded 42km neu 63km drwy’r cymunedau y byddan nhw’n eu cynorthwyo drwy godi arian.
“Fe wnes i sicrhau, yn fwriadol, nad o’n i wedi dechrau’n rhy gyflym,” meddai. “Wnaeth [y tymheredd] gyrraedd 44 gradd selsiws yn ystod yr her ac roeddech chi’n gallu teimlo’r gwres yn codi oddi ar y baw.
“Wnes i’n sicr gamu allan o fy ‘comfort zone’ a herio fy hun i fyw am achos sy’n fwy na fi fy hun.
“Fedrwch chi weld hysbysebion ac adroddiadau newyddion am dlodi ond mae angen i chi ei weld o i werthfawrogi’n llawn yr amodau mae pobol yn byw ynddyn nhw.”
Noddi plant
Hyd yma, mae Luke Gratton wedi codi bron i £2,000 i gefnogi plant tlawd yng Nghenia ac mae ei noddwyr wedi cynorthwy dau o blant yn y wlad. Mae Luke a’i deulu hefyd wedi noddi plentyn chwe mlwydd oed, Boaz, sydd wedi gallu dechrau yn yr ysgol erbyn hyn.
Yn sgil eu cefnogaeth, fe fydd Boaz bellach yn gallu cael bwyd maethlon, cefnogaeth emosiynol, triniaeth feddygol a’r cyfle i gael addysg.
Yn ystod ei ymweliad â’r wlad, cafodd Luke Gratton y cyfle i gwrdd â Boaz, gan roi pecyn o anrhegion – gan gynnwys baner y Ddraig Goch – iddo gan ei deulu ac aelodau o eglwys Alive ym Mhrestatyn.
“Roedd o’n brofiad gwylaidd i weld fod £25 – sy’n gyfystyr â phryd o fwyd allan yma yng Nghymru – yn medru gwneud cymaint o wahaniaeth anferth i blentyn a’i deulu bob mis.
“Mae wyth ohonyn nhw’n byw mewn siac haearn rhychog ac mae’r tad yn ei chael yn anodd dod ag arian i mewn gan nad oes gynnon nhw dir.
“Fe geision ni roi gwên ar wyneb Boaz, a gobaith i’w deulu at y dyfodol.”