Ben Wright
Derbyshire 360 Morgannwg 39-2
Fe adawodd Morgannwg i Derbyshire sgorio 230 am y tair wiced ola’ a’u gosod eu hunain mewn sefyllfa gref yn eu gêm yn ail adran pencampwriaeth LV=.
Fe ddaeth yr eiliad dyngedfennol yn y gêm pan oedd y bowliwr, Jon Clare, wedi sgorio 8. Fe gafodd ei ollwng yn y slipiau gan Ben Wright oddi ar fowlio Jim Allenby ac fe aeth yn ei flaen i sgorio 130.
Dyna oedd ei sgôr ucha’ erioed ac fe gafodd gefnogaeth gan Dan Redfern gyda 99, ei sgôr gorau yntau yn y bencampwriaeth.
Roedd yna ddwy bartneriaeth tros 100 – 125 am yr wythfed wiced a 104 am y ddegfed, record arall i’r sir o Loegr.
Dechrau da
Roedd Morgannwg wedi dechrau’n dda wrth fanteisio ar wiced anodd i’r batwyr ac, ar un adeg, roedd Derbyshire yn 5 am 2 a 97 am 6 cyn y tro ar fyd.
Bellach, mae Morgannwg yn wynebu amser caled yn eu batiad cynta’ nhw, gyda Gareth Rees a Mike Powell ar y llain ar 39 am 2. Fe aeth Alviro Petersen heb sgorio ac, ar un adeg, roedd y sir ar 14 am 2.