Simon Jones
Mae clwb criced Morgannwg wedi cadarnhau eu bod wedi gofyn i Hampshire am yr hawl i drafod gyda’u cyn fowliwr cyflym, Simon Jones.

Mae’n ymddangos mai’r nod yw ei arwyddo ar fenthyg, yn arbennig ar gyfer y gêmau Ugain20, gan fod nifer o fowlwyr cyflym y sir wedi brifo.

Ond, wrth wneud eu datganiad, roedd Morgannwg yn pwysleisio bod Hampshire yn bwriadu dal gafael yn y Cymro yn y tymor  hir.

Er hynny, medden nhw, fe fyddai swyddogion Morgannwg yn trafod gyda’r bowliwr a ddechreuodd ei yrfa yng Nghaerdydd ac sy’n fab i un arall o gyn arwyr y sir, Jeff Jones.