Mae Bwrdd Criced Lloegr a Chymru (ECB) wedi gwadu adroddiadau bod y Stadiwm Swalec yn debygol o golli’r cyfle i gynnal gêm brawf rhwng Lloegr ac India’r Gorllewin.

Awgrymwyd yn gynharach y byddai’r gêm ryngwladol y flwyddyn nesaf yn erbyn yr ymwelwyr o’r Caribî yn cael ei symud o Gaerdydd i Lord’s.

Dyw’r bwrdd heb gyhoeddi trefn gemau 2012 yn swyddogol eto.

“Cafodd y gêm ei wobrwyo i Gaerdydd ym mis Rhagfyr ac mae hynny’n parhau i fod yr yn peth – dyfalu yw popeth arall,” meddai llefarydd ar ran yr ECB.

“Ond dyw trefn gemau 2012 heb ei benderfynu yn derfynol eto.”

Pe bai Caerdydd yn dal eu gafael ar y gêm brawf, India’r Gorllewin fydd y tîm cyntaf i beidio chwarae gêm brawf yn Lord’s, sy’n cael ei ystyried yn gartref criced Lloegr.

Mae yna adroddiadau y gallai’r ECB newid eu meddwl a gwobrwyo’r gêm i Lord’s gyda Chaerdydd yn cynnal gêm brawf yn erbyn Seland Newydd yn 2013.