Robert Croft - un wiced
Surrey 284 a 194-1 Morgannwg 419 a 259-4 (dec)
Fe fydd gan Forgannwg gyfle i fynd i frig Ail Adran y Bencampwriaeth wrth iddyn nhw deithio i chwarae’r arweinwyr, Northamptonshire.
Mae’r Cymry o fewn tri phwynt i’r brig ar ôl cael deg pwynt yn eu gêm gyfartal yn erbyn Surrey yn yr Oval.
Ddaethon nhw ddim yn agos at ennill ar y diwrnod ola’ wrth i Surrey fatio’n gyfforddus i osgoi colli, heb geisio cyrraedd targed anferth o bron 400.
Y troellwr Robert Croft oedd yr unig un i gael wiced ond, ynghynt yn y dydd, roedd yna berfformiadau da gan y batwyr.
Fe gafodd yr agorwr Gareth Rees gant, gyda 126, a Mike Powell yn ei gefnogi gyda 67 heb fod allan.