James Harris
Essex 13-1  Morgannwg 282

Wagg, Bragg a Harris oedd yr arwyr bach wrth i Forgannwg gael sgôr gweddol yn Chelmsford.

Ar ôl i’r batiwr Will Bragg gael 55, fe gafodd y chwaraewr pob-dim Graham Wagg 36 cyn i’r bowliwr ifanc, James Harris, barhau gyda’i hwyliau da gyda’r bat.

Fe gafodd 53 i helpu Morgannwg i gyrraedd cyfanswm o 282 ar wiced oedd yn edrych yn dda i’r batwyr.

Fe drawodd Harris wedyn ar ddechrau batiad Essex gan gael gwared ar fatiwr Lloegr, Alastair Cooke, am ddim ond 6.

Erbyn diwedd y dydd, roedd Essex ar 13 – 1.