Fe fydd angen 176 o rediadau ar Swydd Northampton i ennill ar bedwerydd diwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Morgannwg yng Nghaerdydd heddiw, ar ôl dechrau’r batiad gyda nod o 218, a gorffen y trydydd diwrnod ar 42-1.

Ar ôl dechrau’r trydydd diwrnod 40 o rediadau y tu ôl i Swydd Northampton ar 63-1, dechrau digon siomedig gafodd Morgannwg wrth iddyn nhw golli Jack Murphy a Jacques Rudolph o fewn tair pelawd, wrth i Rory Kleinveldt gipio dwy wiced mewn dwy belawd olynol. Tarodd Kleinveldt goes Murphy o flaen y wiced cyn i Rudolph ddarganfod dwylo Josh Cobb ar ochr y goes.

Cafodd Kiran Carlson ei fowlio gan Muhammad Azharullah am 44 oddi ar y belen olaf cyn cinio i ddod â phartneriaeth o 68 gyda Colin Ingram i ben, a Morgannwg yn 136-4, 33 o rediadau ar y blaen i Swydd Northampton yn eu hail fatiad.

Ar ôl cyfnod hir o law, dechreuodd sesiwn y prynhawn am 1.45pm. Cafodd Colin Ingram ei fowlio gan Muhammad Azharullah am 25, ac o fewn dim o dro, roedd Morgannwg mewn trafferth unwaith eto ar 137-5, dim ond 34 o rediadau ar y blaen gyda phum wiced yn weddill.

Ond cawson nhw eu hachub – unwaith eto – gan Andrew Salter a Chris Cooke. Cyrhaeddodd Cooke ei hanner canred oddi ar 64 o belenni wrth adeiladu partneriaeth o 71 cyn i Salter gael ei fowlio gan Rob Keogh am 19, a Morgannwg yn 208-6. Ychwanegodd Craig Meschede a Chris Cooke 32 cyn amser te fel bod Morgannwg yn 240-6, ar y blaen o 137.

Ond collon nhw seithfed wiced ar ôl te, wrth i Cooke gael ei ddal gan y wicedwr David Murphy oddi ar fowlio Simon Kerrigan am 69, a’r Cymry’n 244-7. Gyda’r wiced honno y dechreuodd cyfnod o glatsio gan Marchant de Lange, a gurodd ei sgôr unigol gorau i’r sir – 37 – gyda chwech. Roedd ei fatiad yn cynnwys dau bedwar a thri chwech i gyd. Ond fe chwythodd ei blwc pan gafodd ei fowlio gan Richard Gleeson am 39, a Morgannwg yn 301-8.

Cwympodd y nawfed wiced ar 302 pan gafodd Michael Hogan ei fowlio gan Rory Kleinveldt am 1. Tarodd Richard Gleeson goes Craig Meschede o flaen y wiced am 34 wrth i Forgannwg gael eu bowlio allan am 320, gan osod nod o 218 i Swydd Northampton i ennill gyda 13 pelawd yn weddill o’r trydydd diwrnod.

Cwrso

Daeth cyfle cynnar i Marchant de Lange gael Ben Duckett allan gyda daliad am un rhediad oddi ar ei fowlio’i hun, ond roedd y bêl ychydig y tu hwnt i’w afael. Wnaeth e ddim para’n hir iawn ar ôl anafu ei fraich, wrth iddo ergydio i lawr ochr y goes oddi ar fowlio Michael Hogan gan roi daliad i’r wicedwr Chris Cooke, a’i dîm yn 34-1.

Gyda phelawd yn weddill o’r dydd, penderfynodd y dyfarnwyr nad oedd y golau’n ddigon da i barhau, ac roedd Swydd Northampton yn 42-1 ar ddiwedd y dydd. Fe fydd angen 176 yn rhagor arnyn nhw ar y diwrnod olaf.