Mae un o fawrion Clwb Criced Morgannwg a’r sylwebydd criced, Don Shepherd wedi marw.
Roedd wedi dathlu ei ben-blwydd yn 90 oed yr wythnos ddiwethaf.
Y troellwr sydd â’r record am y nifer fwyaf o wicedi i Forgannwg – 2,174 – gan chwaraewr o unrhyw sir sydd heb chwarae criced rhyngwladol. Cipiodd e 2,218 o wicedi dosbarth cyntaf i gyd.
Fel bowliwr cyflym y dechreuodd ei yrfa, gan gipio 115 o wicedi yn ystod tymor 1952.
Ond fel troellwr y cafodd e gryn lwyddiant o 1955 ymlaen, gan gynnwys 168 o wicedi y tymor canlynol, gan gipio pum wiced mewn batiad 15 o weithiau.
Fe gipiodd e 100 o wicedi mewn tymor 13 o weithiau, ac fe gipiodd e hat-tric yn erbyn Swydd Northampton ar gae San Helen yn Abertawe yn 1964.
Yn 1961 yn Abertawe, tarodd e hanner canred mewn chwarter awr yn erbyn Awstralia, ac fe arweiniodd y sir i fuddugoliaeth dros yr un tîm yn 1968.
Yn 1969, Don Shepherd gipiodd y wiced fuddugol wrth i Forgannwg godi tlws Pencampwriaeth y Siroedd yng Nghaerdydd, ac fe gafodd ei enwi’n un o chwaraewyr gorau Wisden am ei berfformiadau yn ystod y tymor hwnnw.
SHEP// Deeply sad & upsetting news our great friend & club legend, Don Shepherd, passed away yesterday. Thoughts with his family and friends pic.twitter.com/r5saldS3oF
— Glamorgan Cricket ???? (@GlamCricket) August 19, 2017