Fe fydd tîm criced Morgannwg yn gobeithio am dywydd gwell ar gyfer eu taith i’r Oval i herio Swydd Surrey yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast heno (nos Wener, 6.30).
Fe ddychwelodd Timm van der Gugten i’r tîm i herio Swydd Gaerloyw neithiwr yn lle’r Cymro ifanc, Lukas Carey. Ond ar ôl cael anaf eto neithiwr, bydd ffitrwydd y bowliwr cyflym o’r Iseldiroedd yn cael ei asesu cyn y gêm heno.
Ar ôl cipio pum wiced am 17 neithiwr, ei ffigurau gorau erioed mewn gêm ugain pelawd, mae’r bowliwr cyflym Michael Hogan yn edrych ymlaen at y gêm.
“Ry’n ni wedi cael tipyn o lwyddiant yn erbyn Swydd Surrey dros y ddwy neu dair blynedd diwethaf ar gae’r Oval ac felly ry’n ni’n mynd yno gyda llawer o hyder, ond mae ganddyn nhw nifer o chwaraewyr o safon.
“Mae nifer o chwaraewyr ar goll ganddyn nhw, ond mae ganddyn nhw adnoddau di-ben-draw ac mi fydd yn her dda.
“Mae’r bois wedi bod yn chwarae’n dda iawn ac mae gyda ni dipyn o hyder.”
Y gwrthwynebwyr
Mae’r batiwr ymosodol o Sri Lanca, Kumar Sangakkara wedi mynd i’r Caribî ar gyfer cystadleuaeth y CPL, ac felly mae cyn-fowliwr cyflym Morgannwg, Moises Henriques wedi ymuno â Swydd Surrey yn ei le yn ail chwaraewr tramor ar ôl ei gydwladwr o Awstralia, Aaron Finch.
Yn ymuno â’r sir ar fenthyg mae’r chwaraewr amryddawn Rikki Clarke o Swydd Warwick.
Tra bod Morgannwg ar frig y tabl o hyd, mae Swydd Surrey wedi disgyn i’r pumed safle ar ôl colli oddi cartref yn erbyn Swydd Sussex neithiwr.
Un pwynt yn unig sy’n gwahanu Morgannwg a Swydd Hampshire ar frig y tabl bellach.
Dechreuodd Swydd Surrey y gystadleuaeth gyda dwy fuddugoliaeth dros Swydd Essex a Gwlad yr Haf cyn colli’r ddwy gêm olynol yn erbyn Swydd Middlesex a Swydd Gaint.
Ond fe gawson nhw ddwy fuddugoliaeth wedyn yn erbyn Swydd Essex a Swydd Middlesex cyn i’r glaw ddod â’r ddwy gêm ddiweddaraf i ben yn gynnar – gan gynnwys yr un yn erbyn Morgannwg yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf.
Gemau’r gorffennol
Mae gan Forgannwg record 100% o fuddugoliaethau yn y gystadleuaeth ar gae’r Oval yn dilyn llwyddiannau yn 2014, 2015 a 2016.
Y llynedd, cipiodd Timm van der Gugten bedair wiced am 14, a’r seren yn 2015 oedd y capten Jacques Rudolph, a darodd hanner canred i sicrhau buddugoliaeth o bedwar rhediad.
Carfan Swydd Surrey: G Batty (capten), S Borthwick, R Burns, R Clarke, S Curran, T Curran, J Dernbach, A Finch, B Foakes, M Henriques, S Meaker, O Pope, J Roy, M Stoneman
Carfan Morgannwg: J Rudolph (capten), L Carey, C Cooke, T Cullen, M de Lange, A Donald, M Hogan, C Ingram, C Meschede, D Miller, A Salter, N Selman, R Smith, G Wagg