David Miller wedi gwneud argraff yr wythnos hon
Ar ôl buddugoliaeth Morgannwg dros Swydd Gaerloyw ym Mryste nos Fawrth, yr un garfan fydd yn herio Swydd Surrey yng Nghaerdydd yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast heno (6.30yh).

Morgannwg sydd ar frig tabl y de ar sail eu cyfradd sgorio ac ar ôl ennill eu tair gêm ddiwethaf oddi cartref, ond yr un nifer o bwyntiau sydd ganddyn nhw â’r ymwelwyr.

Tarodd y ddau fatiwr o Dde Affrica, David Miller a’r capten Jacques Rudolph hanner canred yr un nos Fawrth, cyn i Colin Ingram a Michael Hogan selio’r fuddugoliaeth gyda’r bêl i ddod â rhediad di-guro Swydd Gaerloyw i ben.

Er mai cyfradd sgorio’n unig sy’n gwahanu Morgannwg a Swydd Surrey, mae’r Saeson wedi ennill un gêm yn fwy na’r Cymry hanner ffordd drwy’r gystadleuaeth.

Mae hanes diweddar yng Nghaerdydd o blaid y Saeson, er mai Morgannwg oedd yn fuddugol yng Nghaerdydd y tymor diwethaf, a hynny o naw wiced ar ôl i Colin Ingram daro hanner canred. Ond y Saeson oedd yn fuddugol y tymor cynt diolch i fatio Jason Roy, oedd wedi taro 61, cyn i Azhar Mahmood a Sam Curran gipio tair wiced yr un.

Y Saeson oedd yn fuddugol yn 2014 hefyd wrth i Hashim Amla sgorio hanner canred a batio campus gan y Gwyddel, Kevin O’Brien, i sicrhau’r fuddugoliaeth o 17 o rediadau.

Y glaw

Yn ôl y capten Jacques Rudolph, fe fyddai sefyllfa Morgannwg o ran y tabl yn well fyth oni bai eu bod nhw wedi chwarae mewn tair gêm sydd wedi cael eu heffeithio gan y glaw.

“Mae ein safle ni yn y tabl yn adlewyrchiad teg o’r ffordd rydyn ni wedi chwarae ein criced hyd yn hyn,” meddai.

“Ry’n ni wedi cael ein heffeithio gan y glaw mewn tair gêm, ond pan na chawson ni ein heffeithio gan y glaw, fe chwaraeon ni griced da.

“Dw i’n falch iawn gyda’r ffordd mae’r garfan wedi perfformio hyd yma, mae yna rythm a llif yn yr ystafell newid, a boed i hynny barhau.

David Miller

Mae’r batiwr tramor newydd o Dde Affrica, David Miller wedi creu argraff ar ei gydwladwr a’i gapten ar ôl perfformiad campus nos Fawrth.

“Mae Colin [Ingram] a David [Miller] yn fatwyr tebyg i’w gilydd ac yn ei gêm gyntaf, fe wnaeth David asesu’r amodau a’r sefyllfa’n dda iawn i gael dechrau gyda hanner canred ac ennyn rhywfaint o hyder.”

Ond mae gan Swydd Surrey fatwyr ymosodol hefyd – er nad yw Kevin Pietersen ar gael oherwydd anaf – ac mae Jacques Rudolph yn llwyr ymwybodol o hynny.

“Mae Swydd Surrey yn dîm peryglus iawn, yn enwedig gyda [Aaron] Finch a Jason Roy ar y dechrau, ond mae gyda ni chwaraewyr da hefyd, mae gyda ni fowlwyr da, bowlwyr sydd â’r ‘x factor’ sy’n gallu eu bowlio nhw allan a dyna’r meddylfryd sydd ei angen wrth herio timau fel Swydd Surrey.”

Carfan Morgannwg: J Rudolph (capten), A Donald, N Selman, C Ingram, D Miller, C Cooke, G Wagg, C Meschede, A Salter, M de Lange, T van der Gugten, M Hogan, O Morgan, C Brown.

Carfan Swydd Surrey: G Batty (capten), S Borthwick, R Burns, S Curran, T Curran, J Dernbach, A Finch, B Foakes, S Meaker, O Pope, J Roy, R Rampaul, K Sangakkara, D Sibley, M Stoneman.