Ar ôl seibiant o ddeng niwrnod, bydd Morgannwg yn gobeithio adeiladu ar eu buddugoliaeth gynta’r Bencampwriaeth dros Swydd Durham ar gae San Helen wrth iddyn nhw deithio i Swydd Gaerwrangon heddiw.

Y batio sydd wedi achosi’r problemau mwyaf i Forgannwg y tymor hwn, ond roedd rhai arwyddion addawol yn Abertawe gyda chanred i Nick Selman i ennill y gêm.

Ond mae’r capten Michael Hogan yn ffyddiog fod tro ar fyd o dan ei arweiniad.

“Ry’n ni wedi cynllunio sut i fynd ati gyda phob batiad. Ar ôl perfformiad gwael yn y batiad cyntaf yn erbyn Swydd Nottingham, dywedon ni’n blwmp ac yn blaen wrth y batwyr nad oedd hynny’n dderbyniol ac fe amlinellon ni bopeth ar gyfer y dyfodol.”

Y timau

Does dim newid yng ngharfan Morgannwg, ond mae’r bowliwr cyflym o Bontarddulais, Lukas Carey yn cael cyfle ar gae New Road.

Ond bydd Swydd Gaerwrangon heb y batiwr ifanc Tom Kohler-Cadmore, sydd wedi symud ar unwaith i Swydd Efrog ar ôl cael ei ryddhau o’i gytundeb.

Swydd Gaerwrangon: D Mitchell, B D’Oliveira, T Fell, J Clarke, B Cox, R Whiteley, E Barnard, J Leach (capten), J Shantry, J Tongue, N Lyon

Morgannwg: N Selman, J Rudolph, A Salter, A Donald, C Ingram, C Cooke, W Bragg, M Hogan (capten), T van der Gugten, L Carey

Sgorfwrdd