Kiran Carlson (Llun o wefan Clwb Criced Morgannwg)
Colli’n drwm oedd hanes Morgannwg unwaith eto neithiwr wrth iddyn nhw gael eu curo gan Swydd Sussex o 96 rhediad drwy ddull Duckworth-Lewis yng nghwpan 50 pelawd Royal London yn Hove.

Dyma’r ail waith yn unig i’r Saeson ennill gornest 50 pelawd ers mis Awst 2014.

Tarodd Stiaan van Zyl 96 wrth i’r Saeson sgorio 292-6, ond cafodd Morgannwg eu bowlio allan am 221.

Tarodd David Wiese 35 heb fod allan oddi ar 20 o belenni ar ôl i Stiaan van Zyl a Ben Brown (60) sgorio cyfanswm o 115 mewn 17 o belawdau.

Gobaith…

Roedd llygedyn o obaith i Forgannwg tra bod eu capten Jacques Rudolph ar y llain, wrth iddo yntau daro’i hanner canred y tymor hwn yn ystod partneriaeth o 72 gyda Kiran Carlson, y batiwr ifanc o Gaerdydd.

Ond perfformiodd bowlwyr Swydd Sussex yn rhy dda i Forgannwg, yn enwedig y troellwr llaw chwith Danny Briggs, a gipiodd dair wiced am 53.

Roedd Morgannwg wedi llithro i 138-6 cyn i’r glaw ddod ac ar ôl addasu’r nod, roedd angen 143 o rediadau arnyn nhw oddi ar 11.5 o belawdau.

Aeth Chris Cooke amdani gyda 62 oddi ar 47 o belenni ond roedd y nod yn ormod yn y pen draw.

Colli dwy

Mae Morgannwg bellach wedi colli eu dwy gêm ddiwethaf yn y gystadleuaeth, ar ôl cael eu trechu gan Swydd Surrey o wyth wiced drwy ddull Duckworth-Lewis yng Nghaerdydd ddydd Sul.

Kumar Sangakkara oedd y seren bryd hynny wrth iddo daro 81 heb fod allan. Unwaith eto, dim ond y ddau fatiwr o Dde Affrica, Jacques Rudolph (57) a Colin Ingram (72) oedd wedi cyfrannu’n sylweddol gyda’r bat, ac fe fydd Morgannwg eisoes yn poeni fod ganddyn nhw dymor hir a siomedig o’u blaenau.