Jacques Rudolph (Llun: The Cricketers' Who's Who)
Mae capten tîm criced Morgannwg, Jacques Rudolph wedi taro hanner canfed canred dosbarth cyntaf ei yrfa.

Roedd e heb fod allan ar 116 pan ddaeth y glaw amser cinio, a Morgannwg erbyn hynny wedi cyrraedd 225-3 yn erbyn Prifysgolion Caerdydd yr MCC yng Nghaerdydd.

Ond fe gollodd ei wiced am 142 ar ôl i’r gêm ail-ddechrau yn ystod y prynhawn.

Hwn yw cyfanswm dosbarth cyntaf gorau Jacques Rudolph yng Nghaerdydd, gan guro’r 103 sgoriodd e yn erbyn Swydd Gaint yn 2014.

Hwn hefyd yw ei gyfanswm gorau ers mis Ebrill 2015, pan darodd e 111 yn erbyn Swydd Gaerlŷr.