Cafodd y bowliwr cyflym o’r Iseldiroedd, Timm van der Gugten ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn a Chwaraewr Gorau’r Bencampwriaeth gan Glwb Criced Morgannwg nos Sadwrn.

Mae van der Gugten wedi cipio 73 o wicedi ym mhob cystadleuaeth y tymor hwn, gan gynnwys 47 wiced dosbarth cyntaf.

Yn ei gêm T20 gyntaf, fe gipiodd e bedair wiced am 14 ar gae’r Oval yn erbyn Swydd Surrey, gan orffen y gystadleuaeth gyda 19 o wicedi.

Fe gipiodd e saith wiced yng nghwpan 50 pelawd Royal London yn ogystal.

Mae e hefyd wedi cipio pum wiced mewn batiad bedair gwaith yn ystod y tymor, a fe sydd ar frig tabl wicedi Morgannwg y tymor hwn.

Colin Ingram gafodd ei enwi’n Chwaraewr Undydd Gorau’r Flwyddyn ar ôl sgorio 869 o rediadau mewn cystadlaethau undydd, gan gynnwys 502 o rediadau yn y T20 Blast, gan gynnwys pedwar hanner canred a 101 yn erbyn Swydd Essex. Fe gipiodd chwe wiced yn ogystal.

Aneurin Donald gipiodd wobr Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn ar ôl taro 234 yn erbyn Swydd Derby ym Mae Colwyn ar ei ffordd i 1,000 o rediadau yn ystod y tymor – y chwaraewr ieuengaf erioed i gyrraedd y nod, gan dorri record Matthew Maynard.

Yr Awstraliad Nick Selman gafodd ei enwi’n Chwaraewr Gorau’r Ail Dîm, tra bod cydnabyddiaeth hefyd i Dean Cosker, sydd wedi ymddeol ar ôl 21 o flynyddoedd gyda’r sir.

Bydd Orielwyr San Helen yn cynnal noson wobrwyo ar Fedi 26.