Cipiodd dau o droellwyr Swydd Northampton ugain wiced rhyngddyn nhw wrth i’r Saeson guro Morgannwg o 318 o rediadau ar drydydd diwrnod y gêm yn ail adran y Bencampwriaeth yn Northampton.

Cafodd Morgannwg eu bowlio allan am 124 yn eu batiad cyntaf, a 132 yn eu hail fatiad.

Cipiodd Rob Keogh naw wiced am 52 yn y batiad cyntaf, gyda chapten Morgannwg Jacques Rudolph yn brif sgoriwr gyda 37.

Roedd Swydd Northampton eisoes wedi sgorio 269 yn eu batiad cyntaf, wrth i Ben Duckett sgorio 80 a Rob Newton yn sgorio 78. Ond seren y batiad hwnnw oedd troellwr Morgannwg, Kiran Carlson, wrth iddo gipio pum wiced am 28 yn ei gêm gyntaf i’r sir.

Yn eu hail fatiad, sgoriodd y Saeson 305-7 cyn cau’r batiad, a hynny ar ôl i Duckett sgorio 185.

Roedd gan Forgannwg nod o 451 i ennill gyda dau ddiwrnod o’r ornest yn weddill, ond sicrhaodd Graeme White na fyddai’r Cymry’n dod yn agos at y nod, wrth iddo gipio chwe wiced am 44.

Cipiodd Keogh bedair wiced yn yr ail fatiad i orffen gyda ffigurau o 13-125, y ffigurau gorau i’r sir ers bron i ddeugain mlynedd.