Guto Williams
Mae aelod o dîm pêl-droed dan naw oed Canton Rangers wedi bod yn disgrifio “taith arbennig” a gafodd wrth i dîm Cymru baratoi ar gyfer ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd 2018.

Mae Canton Rangers wedi’u henwi’n Glwb y Flwyddyn gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru, flwyddyn ar ôl ennill gwobr ranbarthol yn y de. Cafodd y clwb ei sefydlu 16 o flynyddoedd yn ôl ond y llynedd, bu’n rhaid iddyn nhw symud o’u cartref yn Ysgol Uwchradd Cantonian ar ôl clywed bod eu rhent yn codi 60%.

Ond doedd hynny ddim am dawelu eu brwdfrydedd ac erbyn hyn, mae gan y clwb fwy na 25 o dimau, dros 300 o chwaraewyr a 60 o wirfoddolwyr.

Ymhlith y chwaraewyr mae Guto Williams, naw oed, sy’n ddisgybl yn Ysgol Treganna.

Cafodd Guto y cyfle i wylio’r tîm yn ymarfer a gweld y cyfleusterau y mae’r tîm yn manteisio arnyn nhw yn y gwesty ym Mro Morgannwg.

Holi Sam Vokes ac Owain Fôn Williams

Wrth i’r wasg ymgynnull i holi rhai o chwaraewyr Cymru ar drothwy’r ymgyrch, Guto gafodd y fraint o ofyn y cwestiwn cyntaf mewn sesiynau gyda Sam Vokes ac Owain Fôn Williams.

Dywedodd Guto wrth Golwg360 mai ei gwestiwn i Sam Vokes oedd: “Pwy yw eich gwrthwynebwyr anoddaf? Ond yn Saesneg!”

Atebodd Sam Vokes: “Gwrthwynebwyr anoddaf? Am gwestiwn da! Mae’n grŵp anodd i ni, ac mae’n dechrau nos Lun yn erbyn Moldofa. Dw i ddim yn meddwl bo ni’n eu tanbrisio nhw.

“Mae yna gêm leol yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon hefyd. Gwnaeth Awstria’n dda yn yr Ewros. Felly bydd gemau anodd gyda ni.”

Ond fe ddaeth cyfle Guto i ofyn cwestiwn yn Gymraeg i’r golwr o Ddyffryn Nantlle, Owain Fôn Williams: “Wyt ti’n meddwl bo ti’n mynd i neud e i’r un-deg-un sy’n dechrau?”

Atebodd y golwr: “Sa’n braf iawn, basa. Pwy a wyr? Mae gynnon ni golwr da iawn ar y funud yn Wayne Hennessey. Dw i mor falch cael bod yma efo’r hogia i gyd.”

“Taith arbennig”

Wrth edrych yn ôl ar ei ddiwrnod yng nghwmni rhai o’i arwyr, dywedodd Guto wrth Golwg360 ei fod e wedi cael “taith arbennig”.

“O’dd y daith yn arbennig, yn cael mynd rownd fan hyn a gweld y chwaraewyr i gyd.”

Mae Guto’n hyderus y gwnaiff Cymru guro Moldofa gan ddarogan “dwi’n meddwl wnewn nhw ennill 3-0”.

Ond y cwestiwn mawr oedd pwy fydd yn sgorio i Gymru?

“Gareth Bale, Sam Vokes a falle Hal Robson-Kanu,” meddai Guto ar ôl meddwl yn ofalus am ei ateb.

Yn goron ar brofiad Guto, fe fydd e’n cael bod yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer y gêm, ac fe ddywedodd ei fod yn edrych ymlaen at gael eistedd yng nghanol cefnogwyr Cymru ac ymuno yn y dathlu.

Gwobrwyo’r cefnogwyr

Eglurodd Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Ian Gwyn Hughes yn ystod y gynhadledd eu bod nhw am wobrwyo cefnogaeth y Cymry yn Ffrainc drwy gynnig y cyfle i blant gael cymryd rhan yn y cynadleddau i’r wasg.

“Fe gawson ni gefnogaeth wych gan ysgolion yn ystod y twrnament ac roedden ni am ddiolch am hynny drwy gynnal eu diddordeb yn y tîm.

“Wnaethon ni drefnu cystadleuaeth lle byddai’r enillydd yn cael y cyfle i ofyn y cwestiwn cyntaf mewn cynhadledd i’r wasg.

“Treuliodd Guto y diwrnod yn gwylio’r sesiwn ymarfer ac yn cael gweld y cyfleusterau yma.”