Mae Aneurin Donald wedi taro 234 – ei gyfanswm dosbarth cyntaf unigol gorau erioed yn y Bencampwriaeth – ar ddiwrnod cynta’r ornest rhwng Morgannwg a Swydd Derby ym Mae Colwyn.
Ef bellach yw’r chwaraewr ieuengaf erioed i gyrraedd y nod i Forgannwg, gan guro John Hopkins o bum mlynedd.
Roedd wedi pasio’i gyfanswm gorau blaenorol o 105 (yn erbyn Prifysgolion Caerdydd yr MCC ddechrau’r tymor) erbyn amser te.
Wrth iddo gyrraedd ei ganred dwbl, roedd wedi wynebu 123 o belenni – yr un faint â’r canred dwbl cyflymaf erioed yn hanes criced dosbarth cyntaf gan Ravi Shastri – gynt o Forgannwg.
Erbyn diwedd ei fatiad, roedd e wedi wynebu 136 o belenni, ac wedi taro 26 pedwar a 15 chwech – sy’n torri record Graham Wagg o 11 pan sgoriodd e 200 yn erbyn Swydd Surrey yn Guildford y tymor diwethaf.
Batiodd Morgannwg yn gyntaf ar ôl galw’n gywir ac ar ddechrau’r batiad, roedd hanner canred yr un i Will Bragg (60), Nick Selman (57) a Craig Meschede (54 heb fod allan).
Cipiodd Will Davies bum wiced am 123, ac roedd tair wiced i Tony Palladino am 65.
Erbyn diwedd y diwrnod cyntaf, roedd Morgannwg yn 481-8.