Mae un o gewri’r byd dartiau yn ffyddiog y gall digwyddiadau fel yr un a gafwyd yn stadiwm y Swalec SSE yng Nghaerdydd nos Fercher diwethaf roi hwb i’r gamp yng Nghymru. Gohebydd Golwg360, Alun Rhys Chivers fu’n holi Bobby George…

Bobby George yw un o’r enwau a’r wynebau mwyaf cyfarwydd yn y byd chwaraeon ers pum degawd bellach. Mae ei glogwyn, ei ganhwyllau a’r ‘bling’ ar ei fysedd ac o gwmpas ei wddf i gyd yn rhan o ddelwedd y Llundeiniwr sy’n dipyn o ffigwr cwlt yn y byd dartiau – hyd yn oed i’r to iau nad ydyn nhw’n ei gofio fe ar ei anterth.

Ond nos Fercher, cefais fy hun yn cael crafu dan yr wyneb i geisio darganfod mwy am Bobby George, y dyn i ffwrdd o’r llwyfan. Wrth agosáu ato mewn ystafell gefn yn stadiwm y Swalec SSE yng Nghaerdydd, a chael mynd heibio’r swyddogion diogelwch o’i gwmpas, gwelwn y dyn ei hun yn symud rhwng y bwrdd bwyd a’r bwrdd dartiau lle’r oedd yn paratoi ar gyfer y noson o adloniant yr oedd disgwyl mawr amdani yn y brifddinas.

Mae nhw’n dweud na ddylech chi gwrdd â’ch arwyr rhag i chi gael eich siomi. Ond gallwn weld o’r wên groesawgar ar ei wyneb nad oedd yr hen Bobby mewn hwyliau i siomi neb. Rhwng paratoi’r dartiau fesul un i’w rhoi’n ofalus yn ôl yn eu casyn, fe’m galwodd ato.

“Ydych chi’n teimlo’r cyffro?” oedd fy man cychwyn. “Cyffro?!”, ebychodd. Oeddwn i wedi camddeall y dyn hwn y mae ei holl osgo’n fwrlwm o gyffro, tybed? Ond dychwelodd y wên gynnes. “Dw i’n chwarae dartiau am sbort. Dwi ddim yn teimlo cymaint o ‘gyffro’ ag yr oeddwn i!” ‘Sbort’ yw’r gair allweddol cyn belled ag y bo Bobby George yn y cwestiwn. Cafodd rhai chwaraewyr eu geni i ennill – ac mae e’n sicr wedi gwneud hynny ar hyd y blynyddoedd – ond prif bwrpas Bobby George yw creu diddanwch.

“Dw i jyst yn chwarae tipyn o ddartiau am hwyl. Mae’r bois eraill yma i chwarae. Dw i yma jyst am sbort, i gael chwarae yn erbyn y gynulleidfa.”

Y dyddiau da yng Nghymru

Roedd rhyw ddiffuantrwydd yn ei lais, fel pe bai’r cyfle i ddod i Gymru i ddiddanu’r cefnogwyr yn fodd i fyw iddo. Os oedd ei gynhesrwydd at Gymru’n amlwg, roedd cynhesrwydd Cymru tuag ato yntau’r un mor amlwg ar y noson.

“Dwi wedi chwarae mewn miloedd o nosweithiau yng Nghymru. Miloedd! Dw i wedi bod i ogledd Cymru hefyd, ond nid cymaint â’r de.”

Wrth fynd i gyfeiriad y “dyddiau da”, llifodd yr atgofion am noson yn y 1970au pan oedd yn chwarae yng Nghymru “am sbort” am y tro cyntaf –  a hynny ochr yn ochr â dau o gewri’r gamp.

“Y noson adloniant gyntaf wnes i erioed, wnes i chwarae yn erbyn Alan Evans a Leighton Rees. Clwb Rygbi Pen-y-bont ar Ogwr. Dyna’r un cyntaf, 40 neu 41 o flynyddoedd yn ôl. Dw i wedi bod i bob rhan o Gymru. Maen nhw’n fy ngalw i’n Dafydd George, wyddoch chi! Mae’r Cymry’n rhoi cyfle i bawb. Dyna pam fod Tom Jones wedi’i ‘gwneud hi’. Fe gafodd e ddau gyfle!”

A dyna’r wên fawr yn ymledu ar draws ei wyneb unwaith eto, cyn i ryw dinc o dristwch ymddangos yn ei lais. Dyw poblogrwydd dartiau ddim fel yr oedd flynyddoedd yn ôl, awgrymodd.

“Roedd y Cymoedd yn arfer bod yn boblogaidd iawn, ond mae lot o’r clybiau wedi cau erbyn hyn, dyw pethau ddim fel roedden nhw.”

Tro ar fyd?

Ond wrth i’r sgwrs droi at y noson dan sylw, daeth y wên yn ôl i’w wyneb a’r dinc yn ei lais yn ôl.

“Mae gan bobol ddiddordeb mewn dartiau, a chael gweld y bois hyn yn mynd i fyny. Maen nhw’n dweud, “Galla i wneud hyn!” Dyna ro’n i’n arfer ei ddweud. Y drafferth yw ei gwneud hi. Dyna’r darn anodd.”

A fyddai ymddangosiad y chwaraewr o Lanelwy, Mark Webster yn plesio’r dorf, tybed?

“Maen nhw’n mynd i gefnogi eu chwaraewr nhw. Mae’n bosib bo nhw’n hoffi un chwaraewr ond ddim yn hoffi rhywun arall, ond does dim malais. Mae rhai yn drwsiadus, yn fwy na’i gilydd. Dyna pam bo nhw’n fy hoffi i gymaint! Jôc!

“Mae’n dda i’r gamp fod pobol yn gallu dod i wylio. Fydden nhw fwy na thebyg ddim yn cwrdd â nhw fel arall. Mae’n braf, os y’ch chi’n hoffi dartiau, i gael cwrdd â’r chwaraewyr. Ar y teledu, gallwch chi ddweud ‘Wel, dw i ddim yn ei hoffi fe, mae e braidd yn flash neu beth bynnag. Ond wedyn ry’ch chi’n cwrdd â  nhw, ac maen nhw’n hollol wahanol.”

Ro’n i’n dal i drio penderfynu a oedd Bobby George, yr union Bobby George yr oeddwn i wedi bod yn ei wylio ar y teledu, yn debyg neu’n wahanol i’r hyn a ddychmygwn ar hyd y blynyddoedd.

Daeth cyhoeddiad yn yr ystafell yn rhybuddio pobol fod y gystadleuaeth ar fin dechrau. Roedd fy amser yng nghwmni’r cawr dartiau’n dirwyn i ben. Ond wrth iddo wisgo’i glogyn a rhoi’r dartiau ym mhoced i grys, roedd y dyn y bues i yn ei gwmni ers cwta bum munud yn dawel drawsffurfio’n ‘Bobby George – y diddanwr’.

“Mae’r lle yma’n hyfryd ac ry’n ni’n mynd i gael sbort heno. Fe af fi ma’s gyda’r holl ganhwyllau a’r sglein.”

Ac i ffwrdd â fe.

Os yw’r byd dartiau am gael tro ar fyd yn y Cymoedd, mae dirfawr angen nosweithiau fel yr un a gafwyd nos Fercher. Mae’r angen am gymeriadau fel Bobby George yn fwy fyth. Does ond gobeithio y gall barhau i ysbrydoli cenhedlaethau’r dyfodol fel bod modd i’r Cymoedd, a Chymru gyfan o ran hynny, gynhyrchu pencampwyr y dyfodol. Mark Webster yw Alan Evans neu Leighton Rees yr oes sydd ohoni. Pwy, tybed, fydd y Webster nesaf?