Mae Morgannwg wedi colli o naw wiced yn erbyn Swydd Gaerloyw yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast yng Nghaerdydd.
Graeme van Buuren (3-19) a Tom Smith (2-13) seliodd y fuddugoliaeth i Swydd Gaerloyw wrth iddyn nhw gyfyngu Morgannwg i 119-6.
Dim ond clatsio gan Graham Wagg (32 heb fod allan) wnaeth sicrhau bod Morgannwg wedi cyrraedd cyfanswm parchus yn y pen draw.
Ar lain oedd yn araf ac yn cynnig ychydig iawn o gymorth i’r bowlwyr cyflym, ceisiodd capten Morgannwg, Jacques Rudolph wneud y defnydd gorau o’r troellwyr yn y tîm wrth geisio amddiffyn y cyfanswm, ond yn ofer wrth i Swydd Gaerloyw gyrraedd y nod yn gyfforddus oddi ar 16.1 pelawd, yn dilyn partneriaeth sylweddol o 97 rhwng y capten Michael Klinger (56 heb fod allan) ac Ian Cockbain (53 heb fod allan).
Er gwaetha’r golled, dylai dwy fuddugoliaeth arall o blith y gemau sy’n weddill fod yn ddigon i Forgannwg sicrhau eu lle yn rownd yr wyth olaf.
Manylion
Dechrau digon addawol gafodd Morgannwg i’r batiad ar ôl penderfynu batio’n gyntaf, wrth iddyn nhw gyrraedd 40-0 erbyn diwedd y cyfnod clatsio gyda Mark Wallace a David Lloyd wrth y llain.
Ond ar ôl colli dwy wiced yn y seithfed pelawd, roedden nhw wedi llithro i 47-2 o fewn dim o dro. Lloyd oedd y cyntaf allan am 22, wedi’i ddal gan Michael Klinger oddi ar fowlio Graeme van Buuren. Cafodd ei ddilyn ddwy belen yn ddiweddarach gan Colin Ingram, wrth i van Buuren daro ei goes o flaen y wiced.
Yn 57-2 erbyn hanner ffordd trwy’r batiad, roedd gobaith gan Forgannwg o adeiladu cyfanswm parchus, ond parhau i gwympo wnaeth y wicedi. Cyn diwedd yr unfed belawd ar ddeg, roedd Mark Wallace yn ôl yn y cwtsh, wedi’i fowlio gan Tom Smith am 20, a Morgannwg yn 61-3.
Ar ôl 12.4 o belawdau, roedd y bedwaredd wiced wedi cwympo, wrth i Aneurin Donald gael ei ddal gan Ian Cockbain oddi ar fowlio Smith, a Morgannwg yn 69-4.
Daeth elfen o sefydlogrwydd i’r batiad wrth i’r capten Jacques Rudolph a Graham Wagg ddod at ei gilydd yn y canol, ac roedden nhw’n 87-5 wrth i van Buuren daro coes y capten o flaen y wiced yn yr ail belawd ar bymtheg.
Roedden nhw’n 90-6 wrth i Craig Meschede gael ei redeg allan yn y ddeunawfed pelawd ac roedd unrhyw obaith o adeiladu cyfanswm cystadleuol wedi hen fynd. Ond roedd rhywfaint o adloniant cyn i’r batiad ddod i ben wrth i Wagg a Timm van der Gugten arwain Morgannwg i 119-6, a Wagg yn 32 heb fod allan oddi ar 23 o belenni, wrth iddo daro dau bedwar a dau chwech.
Gorffennodd van Buuren gyda ffigurau o 3-19, a Tom Smith wedi cipio dwy wiced am 13.
Ar ôl dechrau hyderus gan yr ymwelwyr, cwympodd eu wiced gyntaf yn y bedwaredd pelawd, wrth i’r wicedwr Mark Wallace neidio i’w chwith i lawr ochr y goes i waredu Hamish Marshall oddi ar fowlio Timm van der Gugten am 4, a Swydd Gaerloyw’n 23-1.
Roedd y capten Michael Klinger ac Ian Cockbain wedi arwain yr ymwelwyr i 50-1 erbyn diwedd y cyfnod clatsio – ddeg rhediad ar y blaen i Forgannwg ar yr un cyfnod, ac roedden nhw’n edrych yn gyfforddus gan wybod fod angen 70 yn unig i ennill oddi ar yr 14 pelawd oedd yn weddill.
Erbyn hanner ffordd trwy’r batiad, roedd yr ymwelwyr yn 73-1, a Klinger a Cockbain wedi adeiladu partneriaeth o hanner cant. Aeth Klinger ymlaen i gyrraedd ei hanner canred yn y bymthegfed pelawd oddi ar 44 o belenni, a’r fuddugoliaeth bellach ychydig ergydion i ffwrdd. Cyrhaeddodd Cockbain ei hanner canred yntau yn yr unfed belawd ar bymtheg, a hynny oddi ar 40 o belenni.
Daeth y fuddugoliaeth oddi ar belen gynta’r ail belawd a’r bymtheg, a’r bartneriaeth yn 97 rhwng Cockbain (53 heb fod allan) a Klinger (56 heb fod allan).
Ymateb
Ar ddiwedd y gêm, dywedodd wicedwr Morgannwg, Mark Wallace wrth Golwg360 fod gobeithion y tîm o gyrraedd rownd yr wyth olaf yn fyw o hyd er gwaetha’r canlyniad.
“Dydych chi byth yn mynd i fynd trwy’r gystadleuaeth heb golli. Dyna ein hail golled a phe baech chi wedi rhoi hynny i ni ar ddechrau’r tymor, fe fydden ni wedi bod yn hapus.
“Doedden ni ddim wir ynddi heddi. Roedd y llain yn eitha anodd, a wnaethon ni ddim addasu cystal ag y gallen ni fod wedi gwneud.
“Roedden ni 20 neu 30 [rhediad] yn brin a dyna beth sy’n digwydd pan y’ch chi’n brin, rhaid i chi fod yn ymosodol ac roedden nhw [Swydd Gaerloyw] ar dân.
“Wnaethon ni drio popeth i gael rhywbeth. Mae Michael Klinger yn fatiwr o’r radd flaenaf.
“Wnaethon ni roi cynnig da arni ond roedden ni’n drydydd, nid yn ail!
“Ond ry’n ni wedi chwarae criced da yn y gystadleuaeth hon felly cael hyder o hynny sy’n bwysig.”