Chris Cooke yn derbyn ei gap gan Lywydd Morgannwg, Alan Jones
Mae Chris Cooke wedi derbyn ei gap gan Glwb Criced Morgannwg ar ail ddiwrnod y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerlŷr yng Nghaerdydd.

Cafodd y cap ei roi i Cooke gan Lywydd Morgannwg, Alan Jones.

Gwnaeth Cooke, sy’n enedigol o Dde Affrica, ei ymddangosiad cyntaf i Forgannwg mewn gornest ugain pelawd yn erbyn Swydd Middlesex yn 2013 a hynny ar ôl creu argraff fel chwaraewr i’r ail dîm.

Daeth yn aelod cyson o’r tîm undydd 40 pelawd pan darodd ganred yn erbyn Gwlad yr Haf yn yr un flwyddyn, wrth i Forgannwg gyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth yn Lord’s.

Yn ei dymor cyntaf yn y tîm pedwar diwrnod yn 2014, sgoriodd Cooke 870 o rediadau ar gyfartaledd o 43.50, ac fe darodd ganred dosbarth cyntaf am y tro cyntaf y tymor hwnnw yn erbyn Swydd Gaint yng Nghaergaint.

Sgoriodd Cooke 56 wrth i Forgannwg gyrraedd 348 yn eu batiad cyntaf yn erbyn Swydd Gaerlŷr ddydd Sul.