Fe fydd y bowliwr cyflym o Awstralia, Shaun Tait yn dychwelyd i Glwb Criced Morgannwg ar gyfer ail hanner cystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast.

Bydd Tait, 33, ar gael ar gyfer y saith gêm olaf.

Cafodd y newyddion ei gadarnhau yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y sir nos Iau.

Daeth Tait i Gymru am y tro cyntaf yn 2010, cyn mynd ymlaen i gynrychioli Awstralia mewn gemau ugain pelawd.

Roedd yn aelod o garfan Awstralia a heriodd India ddechrau’r flwyddyn, ac fe gynrychiolodd Peshawar Zalmi yn Uwch Gynghrair T20 Pacistan a Hobart Hurricanes yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Big Bash yn Awstralia.

Y tymor diwethaf, chwaraeodd Tait dros Swydd Essex yn y T20 Blast, gan gipio tair wiced am 28 yn erbyn Morgannwg yng Nghaerdydd a thair wiced am 33 yn erbyn y Cymry yn Chelmsford i helpu’r Saeson i gyrraedd rownd yr wyth olaf.

Dywedodd Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris: “Rydym yn credu bod gennym dîm cystadleuol iawn ac fel un o’r bowlwyr cyflymaf yn y byd, fe fydd Shaun yn hogi ein hymosod.”

Cadarnhaodd hefyd fod y sir yn cynnal trafodaethau gyda chwaraewr arall o dramor ar gyfer hanner cynta’r gystadleuaeth, a’u bod yn gobeithio gwneud cyhoeddiad yn ystod yr wythnosau i ddod.