Natalie Sciver oedd y seren i dîm criced merched Lloegr wrth iddyn nhw guro Awstralia o bum wiced yn y Swalec SSE yng Nghaerdydd ddydd Llun.
Cipiodd Sciver 4-15 gyda’r bêl – ei ffigurau gorau erioed – wrth i Awstralia gael eu bowlio allan am 111.
Roedd pedair wiced hefyd i Anya Shrubsole.
Wrth gwrso’r nod o 112, tarodd Sciver 47 gyda’r bat i arwain ei gwlad i fuddugoliaeth.
Roedd batiad Sciver yn cynnwys dau bedwar ac un chwech wrth i Loegr gyrraedd eu nod bum pelen cyn diwedd yr ornest.
Mae buddugoliaeth Awstralia yn y gyfres, fodd bynnag, yn golygu eu bod nhw bellach yn bencampwyr y Lludw, Cwpan y Byd a Chwpan T20 y Byd ar yr un pryd.