Ben Davies
Mae’r genedl gyfan yn ymwybodol o pha mor bwysig yw’r ddwy gêm nesaf i dîm pêl-droed Cymru wrth iddyn nhw geisio sicrhau eu lle yn Ewro 2016 yr wythnos hon, yn ôl Ben Davies.
Mae cefnwr chwith Spurs nôl yn y garfan ar ôl methu’r fuddugoliaeth wych dros Wlad Belg gydag anaf, wrth i Gymru baratoi i herio Cyprus i ffwrdd o gartref nos Iau ac yna Israel gartref dydd Sul.
Byddai ennill y ddwy gêm honno yn sicrhau lle Cymru yn Ewro 2016, a lle i fechgyn Chris Coleman yn y llyfrau hanes.
“Mae’n gêm enfawr, dw i’n meddwl bod pawb yn y wlad yn gwybod pa mor fawr fydd y gemau yma i ni,” meddai Ben Davies.
“Rydyn ni’n benderfynol o fynd mas yna a gwneud ein rhan.”
Hwb i bêl-droed
Yn ôl cyn-amddiffynnwr Abertawe, fe fyddai gweld Cymru’n cyrraedd twrnament pêl-droed rhyngwladol am y tro cyntaf ers 1958 yn hwb enfawr i’r gamp a’u gobeithion o ddenu rhagor o gefnogwyr.
“Byddai’n enfawr i ni fel chwaraewyr. [Yn y gorffennol] rydyn ni wedi chwarae pêl-droed da ond heb fod yn gyson, nawr mae’r cyfle yno.
“Fe allai olygu cymaint i bel-droed, mae gennym ni gefnogaeth y wlad i gyd, pobl oedd falle ddim â chymaint o ddiddordeb o’r blaen nawr reit tu ôl i ni.
“O’r blaen ni wedi gweld 3,000 o bobl yn troi lan am gêm gyfeillgar. Weithiau mae hynny’n eich bygio chi, ond ni nawr wedi gosod y safon i ddenu cefnogwyr nôl drwy’r drysau.”
Edrych at Bale
Does dim amheuaeth mai Gareth Bale yw prif seren y tîm yn yr ymgyrch hon, ac mae ymosodwr Real Madrid wedi sgorio pump o’r wyth gôl sydd wedi codi Cymru i frig y grŵp rhagbrofol.
Dyw Ben Davies ddim yn poeni am y cyhuddiadau fod Cymru yn ‘dîm un dyn’, fodd bynnag, gan fynnu ei bod hi’n gwneud synnwyr chwarae i gryfderau’r chwaraewr gorau.
“Mae e’n wych ac rydyn ni mor lwcus ei gael yn y garfan,” meddai Davies am Bale.
“Os oes rhaid i weddill y tîm ei fwydo er mwyn iddo fe sgorio, rydyn ni’n ddigon hapus i wneud hynny os yw e’n cael ni i’r Ewros.”