Mae Morgannwg wedi llwyddo i sicrhau gêm gyfartal yn erbyn Swydd Gaehirfryn yn Old Trafford ar ddiwrnod olaf eu gornest yn ail adran y Bencampwriaeth.

Batio dygn gan Chris Cooke (41 heb fod allan) a’r capten Jacques Rudolph (63) wnaeth sicrhau bod Morgannwg wedi colli tair wiced yn unig yn eu hail fatiad erbyn i’r ornest ddod i ben, a’r Cymry wedi treulio’r diwrnod yn ymlwybro tua 159.

Cafodd y Cymry eu gorfodi i ganlyn ymlaen ar ôl cael eu bowlio allan am 213 yn eu batiad cyntaf, 249 o rediadau y tu ôl i gyfanswm batiad cyntaf Swydd Gaerhirfryn, sef 462 i gyd allan.

Karl Brown oedd seren y tîm cyntaf yn y batiad cyntaf hwnnw, wrth iddo daro’i ganred cyntaf i Swydd Gaerhirfryn ers 2011.

Cafodd Brown ei gefnogi yn y batiad gan y wicedwr Alex Davies (95), Steven Croft (67) a James Faulkner (63).

Y troellwr llaw chwith Simon Kerrigan wnaeth achosi’r difrod gyda’r bêl yn ystod batiad cyntaf Morgannwg, gan gipio pedair wiced am 101, ac roedd dwy wiced yr un i’r Awstraliad James Faulkner a’r bowliwr cyflym 41 oed a chyn-gapten y sir, Glen Chapple, sydd bellach yn is-hyfforddwr hefyd.

Roedd Morgannwg yn 182-6 ar ddechrau’r diwrnod olaf, ac fe gollon nhw’r pedair wiced olaf am 31 cyn gorfod batio eto.

Erbyn amser te, roedd y Cymry’n 108-2 ac yn eithaf hyderus o achub yr ornest wrth i Jacques Rudolph gyrraedd ei hanner canred.

Un wiced yn unig gollodd Morgannwg yn ystod y sesiwn olaf, wrth i Steven Croft ddarganfod coes Rudolph o flaen y wiced, ac yntau wedi cyrraedd 63.

Cooke a David Lloyd (20 heb fod allan) oedd wrth y llain pan benderfynodd y dyfarnwyr Richard Illingworth a Rob Bailey nad oedd gan Swydd Gaerhirfryn obaith o gipio’r saith wiced oedd yn weddill.

Fe fydd rhaid i Swydd Gaerhirfryn aros ychydig yn hwy am y pwyntiau fydd yn sicrhau eu dyrchafiad anochel i’r adran gyntaf y tymor nesaf.

Ond mae’n edrych yn debygol bellach fod gan Forgannwg frwydr go galed o’u blaenau i gadw eu gafael ar y trydydd safle, gyda Swydd Northampton a Swydd Gaerloyw yn dynn ar eu sodlau.

Ymateb Morgannwg

Ar ddiwedd yr ornest, dywedodd capten Morgannwg, Jacques Rudolph: “Roedd yn braf cael treulio rhywfaint o amser yn y canol ar lain oedd yn troi cryn dipyn i’r troellwyr.

“Gwnaeth Chris Cooke fatio’n rhyfeddol ac ry’n ni wedi gwneud y gorau o sefyllfa wael i ddod i ffwrdd gyda gornest gyfartal.

“Yn anffodus, ro’n i allan cyn y diwedd ond mae’n braf nad ydyn ni wedi colli gornest arall, ond fel tîm ry’n ni am symud ymlaen, edrych ar y darlun cyflawn a lle ry’n ni am fod.

“Yn ystod y blynyddoedd nesaf, ry’n ni am chwarae criced yn yr adran gyntaf ac yn erbyn gwrthwynebwyr cryf fel hyn, rhaid i chi edrych am ffyrdd o greu sefyllfaoedd lle gallwch chi ennill ac yn anffodus yn ystod yr ornest hon, wnaethon ni ddim gwneud hynny oherwydd y ffordd wnaethon ni fatio yn y batiad cyntaf.”