Mae gan Swydd Gaerloyw fantais batiad cyntaf o ddau rediad dros Forgannwg ar ddiwedd ail ddiwrnod eu gornest Bencampwriaeth yn San Helen.

Cafodd Morgannwg eu bowlio allan am 299 ar ôl dechrau’r ail ddiwrnod ar 271-8.

Wrth ymateb, roedd Swydd Gaerloyw’n 301-6 erbyn diwedd y dydd, diolch yn bennaf i Hamish Marshall (70) a Benny Howell (67) oedd wedi adeiladu partneriaeth o 129.

Crynodeb

Collodd Morgannwg ddwy wiced yn ystod hanner awr cynta’r bore wrth iddyn nhw gael eu bowlio allan am 299, un rhediad yn brin o drydydd pwynt bonws.

Y ddau o Sir Benfro, Andrew Salter a Kieran Bull oedd yr olaf i golli eu wicedi, y nail yn gyrru i ddwylo Chris Dent oddi ar fowlio David Payne, a’r llall wedi’i ddal gan y wicedwr Gareth Roderick oddi ar yr un bowliwr.

Daeth llwyddiant cyntaf Morgannwg gyda’r bêl yn nawfed pelawd batiad cyntaf Swydd Gaerloyw, wrth i Chris Dent gael ei fowlio gan Craig Meschede oddi ar ei belen y bowliwr, a’r ymwelwyr yn 31-1.

Cipiodd Morgannwg eu hail wiced ugain munud cyn diwedd sesiwn y bore, wrth i Gareth Roderick ddarganfod dwylo diogel Colin Ingram yn y slip oddi ar fowlio’r bowliwr cyflym llaw chwith Graham Wagg, a Swydd Gaerloyw’n 56-2.

Roedd yr ymwelwyr yn 75-2 erbyn amser cinio, ond fe gollon nhw eu trydedd wiced yn gynnar yn ystod sesiwn y prynhawn gyda’r cyfanswm yn 111, wrth i Aneurin Donald sicrhau daliad bat-pad ar ochr y goes oddi ar fowlio Salter.

Cyrhaeddodd Hamish Marshall ei hanner canred oddi ar 58 o belenni mewn batiad oedd yn cynnwys wyth pedwar ac un chwech erbyn iddo gyrraedd y garreg filltir.

Doedd Benny Howell ddim yn bell y tu ôl i’w bartner wrth iddo yntau gyrraedd ei hanner canred oddi ar 117 o belenni mewn batiad oedd yn cynnwys pum pedwar ac un chwech wrth gyrraedd y garreg filltir.

Roedd yr ymwelwyr yn 219-3 erbyn diwedd sesiwn y prynhawn, a phartneriaeth Marshall a Howell yn 108.

Ychwanegon nhw 21 o rediadau ar ddechrau’r sesiwn olaf cyn i Michael Hogan ganfod coes Marshall o flaen y wiced, ac yntau wedi sgorio 70, a’r bartneriaeth o 129 wedi dod i ben.

Aeth 240-4 yn 245-5 wrth i Benny Howell gael ei ddal gan y wicedwr Mark Wallace oddi ar fowlio Craig Meschede am 67.

Cwympodd chweched wiced Swydd Gaerloyw gyda’r cyfanswm yn 262, wrth i Kieran Noema-Barnett ddarganfod dwylo diogel Chris Cooke yn y slip.

Aeth yr ymwelwyr heibio i gyfanswm batiad cyntaf Morgannwg cyn diwedd y dydd.

Ond roedd anghydweld oddi ar y belen olaf un wrth i Jack Taylor sefyll ei dir pan gafodd ei ddal gan Colin Ingram oddi ar fowlio Michael Hogan. Gyda’r batiwr y gwnaeth y dyfarnwyr Neil Bainton a David Millns, ac roedd Swydd Gaerloyw’n 301-6 pan ddaeth y chwarae i ben.