Mae’r troellwr ifanc o Hwlffordd, Kieran Bull wedi’i ychwanegu at garfan Morgannwg ar gyfer ymweliad Siarcod Swydd Sussex ag Abertawe yng nghwpan 50 pelawd Royal London.

Yn cystadlu am le yn erbyn Bull fydd y troellwr arall o Hwlffordd, Andrew Salter, ond mae disgwyl i’r troellwr llaw chwith profiadol, Dean Cosker fod yn ddewis cyntaf i Forgannwg.

Bull yw’r unig ychwanegiad at y garfan oedd wedi colli yn erbyn Swydd Warwick yn y gystadleuaeth hon ddydd Llun.

Dywedodd prif hyfforddwr Morgannwg, Toby Radford: “Mae Keiran yn droellwr agored ymosodol ac addawol iawn.

“Mae e’n dal i fod yn y brifysgol felly dy’n ni ddim wedi gallu ei weld e ryw lawer ar ddechrau’r tymor ond mae e’n parhau i ddangos addewid ac fe fydd e o gwmpas y garfan am y ddwy ornest sydd gyda ni yn Abertawe.

“Colin Ingram fu’r seren gyda’r bat yn y fformat yma ond fe welson ni Chris Cooke a’i fatiad oedd wedi ennill yr ornest yn erbyn Swydd Gaint ac mae ymdeimlad cryf y gallwn ni herio unrhyw un os gallwn ni gael rhagor o gyfansymiau da gan y chwech uchaf.

“Ry’n ni’n cael llain dda ar y cyfan yn Abertawe ac mae cyfle go iawn i symud ymlaen yn y ddwy gystadleuaeth os gallwn ni berfformio’n dda tra ein bod ni yno.”

Morgannwg: J Rudolph (capten), W Bragg, C Ingram, C Cooke, A Donald, D Lloyd, G Wagg, C Meschede, A Salter, D Cosker, M Hogan

Siarcod Swydd Sussex: E Joyce (capten), L Wells, M Machan, G Bailey, C Cachopa, M Yardy, S Piolet, W Beer, B Brown, A Thomas, C Liddle