Yr un deuddeg a deithiodd i Swydd Nottingham ddydd Sul fydd yng ngharfan Morgannwg i herio Swydd Gaint yng nghystadleuaeth 50 pelawd Royal London yn y Swalec SSE heddiw.

Dechreuodd Morgannwg y gystadleuaeth gyda -2 o bwyntiau ar ôl colli pwyntiau y tymor diwethaf oherwydd cyflwr y llain ar gyfer yr ornest yn erbyn Swydd Durham.

Ar ôl cael un pwynt ddydd Sul, mae gan y Cymry -1 o bwyntiau ar drothwy eu gêm gyntaf gartref yng Nghaerdydd.

Ni fydd y bowliwr cyflym llaw chwith, Graham Wagg ar gael i Forgannwg ar ôl cael ei daro ddwywaith yn ei ben yn y T20 Blast, ac fe fydd rhaid iddo brofi ei ffitrwydd yn ôl y canllawiau sy’n cael eu rhoi ar gyfer cyfergyd cyn cael dychwelyd i’r garfan.

Mae Morgannwg yn gobeithio y bydd Wagg yn holliach i wynebu Swydd Essex ddydd Wener.

Dywedodd prif hyfforddwr Morgannwg, Toby Radford: “Fe chwaraeon ni’n dda yng Nghwpan Undydd Royal London y llynedd ac fe gawson ni ambell fuddugoliaeth dda oddi cartref yn erbyn Swydd Surrey, yn Taunton yn erbyn Gwlad yr Haf ac fe guron ni Swydd Middlesex, felly ar y cyfan mae’n gystadleuaeth ry’n ni’n teimlo ein bod ni’n chwarae’n dda ynddi ac mae hi wedi dod, o bosib, ar adeg dda.

“Ry’n ni’n dechrau gyda phedair gêm o fewn wythnos ac mae’r ymarfer a’r paratoi wedi’i ffocysu ar un gystadleuaeth sy’n fonws, ac wrth i’r gemau ddod mewn bloc, gallwch chi ganolbwyntio ar yr hyn ry’ch chi’n ei wneud.”

Fe fydd y pedair gêm yr wythnos hon yn erbyn gwrthwynebwyr sydd wedi cyrraedd rownd wyth ola’r T20 Blast ar ôl herio Morgannwg yng ngrŵp y De – Swydd Gaint, Swydd Sussex, Swydd Hampshire a Swydd Essex.

“Ry’n ni’n chwarae yn erbyn timau da ac felly mae’n gystadleuaeth anodd,” meddai Radford, “ac mae’n fwy anodd i ni eto eleni gan ein bod ni wedi colli pwyntiau am safon y llain yn erbyn Swydd Durham y llynedd. Dydy dechrau ar -2 o bwyntiau byth yn hawdd i unrhyw dîm.”

“Er ein bod ni’n ymwybodol o’r her, dy’n ni ddim yn mynd i guddio. Ein dull yw croesawu’r gystadleuaeth newydd ac ry’n ni am geisio ennill pob gêm ry’n ni’n chwarae ynddi, chwarae i ennill ac i unigolion a’r tîm wneud yn dda.”

Y gwrthwynebwyr

Roedd Morgannwg wedi trechu Spitfires Swydd Gaint yn y T20 Blast yn Tunbridge Wells bythefnos yn ôl, ac fe gollodd yr ymwelwyr ddwywaith – unwaith yn y Bencampwriaeth a’r tro arall yn y T20 – yng Nghaerdydd y tymor diwethaf.

Ychwanegodd Toby Radford: “Ry’n ni wedi chwarae criced da yn erbyn Swydd Gaint ac maen nhw wedi gwneud yn arbennig o dda yn y T20 felly ry’n ni’n gwybod eu bod nhw’n chwarae’r fformat byr yn dda ond ry’n ni’n chwarae’n dda hefyd, felly fe ddylai fod yn ornest dda ac ry’n ni’n edrych ymlaen ati.

“Mae ganddyn nhw lawer o dalent ifanc yn dod drwodd, mae [Sam] Northeast wedi gwneud yn dda gyda’r bat yn ddiweddar, mae [Daniel] Bell-Drummond wedi dod drwodd yn dda a phe bai [Alex] Blake yn chwarae, ry’n ni’n gwybod y gall fod yn ddinistriol yn y fformat T20 felly mae ganddyn nhw ddigon o chwaraewyr da ac mae’n bosib y bydd Coles yn dychwelyd gan ei fod wedi cael gorffwys am gwpwl o gemau, ond mae’n fowliwr allweddol iddyn nhw.

“Maen nhw’n dîm da felly ry’n ni’n edrych ymlaen at eu herio nhw.”

Carfan Morgannwg: J Rudolph (capten), W Bragg, C Ingram, A Donald, C Cooke, M Wallace, C Meschede, D Lloyd, A Salter, R Smith, D Cosker, M Hogan

Carfan Swydd Gaint: S Northeast (capten), D Bell-Drummond, J Denly, F Cowdrey, D Stevens, A Blake, S Billings, M Coles, J Tredwell, M Claydon, M Hunn, I Thomas