Mae Morgannwg wedi colli o fatiad a 157 o rediadau yn erbyn Swydd Gaerhirfryn ar ddiwrnod olaf eu gornest yn ail adran y Bencampwriaeth ym Mae Colwyn.

Ar ddechrau’r pedwerydd diwrnod, roedd Morgannwg yn 146-5 yn eu hail fatiad wedi iddyn nhw ganlyn ymlaen – 204 o rediadau ar ei hôl hi.

Ond collon nhw eu pum wiced olaf am 47 rhediad yn ystod y prynhawn olaf i gau pen y mwdwl ar wythnos siomedig ar eu hymweliad blynyddol â gogledd Cymru.

Ond roedd y difrod eisoes wedi’i wneud yn ystod batiad cynta’r ymwelwyr wrth iddyn nhw gyrraedd 698-5 cyn cau eu batiad, diolch i bartneriaeth o 501 rhwng cyn-gapten Morgannwg, Alviro Petersen (286) ac Ashwell Prince (261).

Roedd hanner canred yr un hefyd i’r capten Steven Croft (57*) a Karl Brown (54).

Ymatebodd Morgannwg gyda 348 yn eu batiad cyntaf, ond doedd hynny ddim yn ddigon i osgoi gorfod canlyn ymlaen, wrth i’r bowliwr cyflym Glen Chapple gipio pedair wiced am 62.

Roedd tair wiced hefyd i Arron Lilley am 113 wrth i Forgannwg orffen eu batiad cyntaf 350 y tu ôl i gyfanswm yr ymwelwyr.

Roedd fawr gan fatwyr Morgannwg i’w gynnig yn eu hail fatiad wrth iddyn nhw geisio achub yr ornest.

Yr unig fatiwr a gyrhaedodd ei hanner canred oedd Chris Cooke (56) wrth i Forgannwg gael eu bowlio allan am 193 yn ystod sesiwn y prynhawn.

Cipiodd y bowlwyr Simon Kerrigan bedair wiced am 28, ac roedd tair wiced hefyd i Lilley unwaith eto am 38 o rediadau.

Ar ddiwedd yr ornest, roedd Swydd Gaerhirfryn ar frig yr ail adran, tra bod Morgannwg yn y trydydd safle.