Mae’r Alban wedi sicrhau eu lle yng Nghwpan Criced T20 y Byd yn India’r flwyddyn nesaf ar ôl trechu Oman o 23 o rediadau neithiwr.
Yr Alban sy’n gorffen ar frig Grŵp B yn dilyn pedair buddugoliaeth allan o chwech yn y grŵp.
Bydd rownd gyn-derfynol y gemau rhagbrofol yn cael ei chynnal yn Iwerddon yr wythnos nesaf.
Mae lle i chwech aelod cysylltiol – gwledydd sydd heb statws gemau prawf – yn rownd gyntaf Cwpan T20 y Byd, ac fe fyddan nhw’n mynd benben â Bangladesh a Zimbabwe am le yn y 10 terfynol.