Ar ôl i’w cyfnod di-guro yn y Bencampwriaeth ddod i ben yn erbyn Swydd Essex yn Chelmsford yr wythnos diwethaf, mae Morgannwg yn teithio i Fae Colwyn i herio Swydd Gaerhirfryn ddydd Sul.

Dyma’r tro cyntaf i’r ddwy sir herio’i gilydd y tymor hwn, ond yr ymwelwyr oedd yn fuddugol yn yr ornest ddiwethaf rhyngddyn nhw ym Mae Colwyn ddau dymor yn ôl.

Yng ngharfan Morgannwg mae’r chwaraewr amryddawn o Lanelwy, David Lloyd ac fe gafodd ei ddoniau eu meithrin yng nghlwb Brymbo ger Wrecsam.

Ond y cricedwr sy’n cael ei gysylltu’n bennaf â Llandrillo-yn-Rhos ger Bae Colwyn yw cyn-gapten Morgannwg, Wilfred Wooller, fu’n gyfrifol am ddenu’r ornest flynyddol i’r gogledd am ddegawdau cyn ei farwolaeth.

Dywedodd prif hyfforddwr Morgannwg, Toby Radford: “Fe ddes i i Fae Colwyn am y tro cyntaf pan o’n i gyda Swydd Middlesex.

“Dwi’n meddwl amdani fel llain fflat, dda gyda ffiniau bychain felly dw i’n sicr y bydd hi’n gêm dda.

“Mae’r chwaraewyr yn mwynhau dod i’r caeau ymylol yma gan ei fod yn gyfle i chwarae ar leiniau gwahanol a chyfarfod â chefnogwyr nad ydyn nhw’n cael eu gweld yn aml iawn, a gyda’r gêm yn cael ei chynnal mor agos i Swydd Gaerhirfryn, mae’n siŵr y bydd digon o gefnogwyr yn y gêm i’r ddwy sir.

Mae Dean Cosker wedi’i ychwanegu at y garfan oedd wedi herio Swydd Essex yr wythnos diwethaf.

Yng ngharfan yr ymwelwyr mae cyn-gapten Morgannwg, Alviro Petersen.

Carfan 13 dyn Morgannwg: J Rudolph (capten), W Bragg, C Ingram, C Cooke, D Lloyd, M Hogan, C Meschede, A Salter, D Cosker, G Wagg, M Wallace, A Donald, R Smith

Carfan 14 dyn Swydd Gaerhirfryn: S Croft (capten), T Bailey, K Brown, G Chapple, J Clark, A Davies, J Faulkner, P Horton, K Jarvis, S Kerrigan, T Lester, A Lilley, A Petersen, A Prince