Mae timau criced Cymru wedi datblygu ar eu dechreuad cryf i’r tymor, gyda chyfres o fuddugoliaethau ar draws y grwpiau oedran, meddai Martyn Bicknell.

Y merched

Teithiodd y tîm merched dan 17 oed i Gernyw ar gyfer eu gêm gyntaf a chael eu gwahodd i fatio’n gyntaf, gan sgorio 189, wrth i Charlotte Scarborough (Gwent) daro 58. Wrth gwrso 190 i ennill, roedd Cernyw bedwar rhediad yn brin o’r nod wrth i Sara Jenkins (Sir Gâr, 2-49) a Charlotte Scarborough (2-28) wneud y rhan fwyaf o’r difrod gyda’r bêl.

Yna, fe wnaethon nhw groesawu Swydd Gaerloyw wrth i’r ymwelwyr benderfynu batio’n gyntaf. Ond cafodd Swydd Gaerloyw eu bowlio allan am 86 yn unig wrth i Nicole Reid ac Ella Reed gipio wyth wiced rhyngddyn nhw. Wrth ymateb, cyrhaeddodd Cymru’r nod o fewn 25 o belawdau gyda Jessica Thornton (Gwent) yn brif sgoriwr gyda 23.

Mewn gornest a gafodd ei chyfyngu i 35 pelawd yr un, chwaraeodd tîm dan 17 oed Cymru yn erbyn Gwlad yr Haf a chael dechreuad gwych wrth i Jessica Thornton gipio 4-14 i gyfyngu Gwlad yr Haf i 97 yn unig. Wrth ymateb, sgoriodd y pâr o Went, Rose Evans (44) ac Ella Reed (35) ar gyfradd uchel i sicrhau’r fuddugoliaeth i Gymru o 10 wiced.

Yn dilyn y fuddugoliaeth dros Wlad yr Haf, roedd perfformiad rhyfeddol yn yr ornest gyfatebol yn erbyn Cernyw yn Sain Ffagan. Wrth fatio’n gyntaf, roedd y teithwyr wedi cael trafferthion o’r dechrau a llwyddo i sgorio 71 yn unig. Wrth ymateb, rhoddodd Ella Reed (29 heb fod allan) y momentwm wrth gwrso, gan sicrhau bod Cymru wedi cyrraedd y nod yn gyflym, gan ennill o wyth wiced.

Y bechgyn

Wrth ddilyn esiampl y merched, mae’r bechgyn wedi cael llwyddiant yn ddiweddar hefyd.

Dan 12 oed

Cafodd y tîm dan 12 oed eu gorfodi i faesu wrth iddyn nhw groesawu Gwlad yr Haf. Gwnaethon nhw frwydro i gipio wicedi cyson wrth i’r ymwelwyr daro 97 rhediad oddi ar 25 o belawdau’n unig. Fodd bynnag, fe newidiodd y cyfan wrth i Steffan Crimp (Caerdydd a’r Fro, 3-9) gael ei gyflwyno, ac fe lithrodd Gwlad yr Haf i 138 i gyd allan. Wrth gwrso 139 i ennill, adeiladodd Osian Evans (27) a Jac Lloyd (19) o Gaerdydd a’r Fro bartneriaeth i arwain Cymru i fuddugoliaeth o bedair wiced.

Yna, teithiodd tîm dan 12 oed Cymru i herio Swydd Gaer a chael eu gwahodd i fatio ar lain damp ac fe gawson nhw anawsterau ar y dechrau. Ond gwnaeth partneriaeth o hanner cant am y drydedd wiced rhwng y pâr o Went, Ollie Robson (14) a Joe Westwood (40) roi Cymru mewn sefyllfa gref cyn i Steffan Crimp (30 heb fod allan) sgorio rhediadau hwyr i sicrhau bod Cymru’n carlamu i 156-8. Wrth gwrso 157 i ennill, dechreuodd y tîm cartref yn dda ond newidiodd y sefyllfa wrth i’r troellwyr Luc Rees (Gorllewin Morgannwg, 2-7) a Ioan Phillips (Sir Gâr, 1-17) gael eu cyflwyno, ac fe sicrhaon nhw’r fuddugoliaeth o 47 rhediad – eu pedwaredd fuddugoliaeth o’r bron.

Dan 13 oed

Fel arall, croesawodd tîm dan 13 oed Cymru Swydd Stafford ar gyfer gornest gyda chyfansymiau isel yng Nghlwb Criced Casnewydd. Ar ôl ennill y dafl, penderfynodd Cymru fatio’n gyntaf. Cafodd Cymru drafferth wrth geisio cynnal cyfradd sgorio gyson drwy gydol y batiad, a dim ond Tegid Phillips (Caerdydd a’r Fro, 18) a Sam Jardine (Gorllewin Morgannwg, 22) oedd wedi cyrraedd ffigurau dwbl wrth iddyn nhw gael eu bowlio allan am 106 yn unig. Fodd bynnag, wrth i Phillips a Ben Davies (Gwent) gipio cwpl o wicedi’r un, dymchwelodd Swydd Stafford yn eu batiad nhw i 75 i gyd allan.

Gwlad yr Haf oedd gwrthwynebwyr nesaf tîm dan 13 Cymru ac ar ôl colli’r dafl, cafodd Cymru eu gwahodd i fatio’n gyntaf ar lain damp gan lwyddo i sgorio 157 yn unig oddi ar eu 40 pelawd. Ond wrth gwrso 158 i ennill, roedd Gwlad yr Haf mewn trafferth o’r dechrau, gan golli dwy wiced gynnar. O hynny ymlaen, roedden nhw wedi methu achub y sefyllfa gan lithro i 138 i gyd allan, gyda Tegid Phillips (3-30) a Matthew Jones (Eryri, 2-16) ymhlith y bowlwyr gorau.

Dan 17 oed

Yn y grŵp oedran dan 17 oed, curodd Cymru Swydd Gaer mewn gornest dau fatiad yng Nghlwb Criced Elworth. Batiodd Swydd Gaer yn gyntaf gan sgorio 182, wrth i Oliver Pike (Caerdydd a’r Fro, 3-23) achosi’r rhan fwyaf o’r difrod i Gymru. Wrth ymateb, aeth batwyr Cymru heibio cyfanswm Swydd Gaer o 182 gan sgorio 243, wrth i Scott Thomas (Gorllewin Morgannwg, 53 heb fod allan) arwain Cymru i flaenoriaeth batiad cyntaf. Yn eu hail fatiad, llithrodd Swydd Gaer i 174 i gyd allan, gan osod nod o 113 i Gymru am y fuddugoliaeth, ac fe gyrhaeddon nhw’r nod heb golli wiced.

Roedd hi lawer agosach wrth i dîm dan 17 oed Cymru deithio i Rydychen i herio Gorllewin Lloegr. Wrth fatio’n gyntaf, sgoriodd Gorllewin Lloegr gyfanswm swmpus o 235 oddi ar eu 50 pelawd, wrth i fowlwyr Cymru ei chael hi’n anodd cadw trefn ar y gyfradd sgorio drwyddi draw. Fodd bynnag, wrth ymateb, daeth Tom Bevan (Caerdydd a’r Fro, 61) a Chris Matthews (Morgannwg Ganol, 64) at ei gilydd i adeiladu partneriaeth o gant i roi Cymru mewn sefyllfa wych wrth gwrso 236. Diolch i 29 chwim oddi ar 31 o belenni gan Prem Sisodiya (Caerdydd a’r Fro), enillodd Cymru o un wiced.

Yna, croesawodd tîm dan 17 oed Cymru Swydd Middlesex ar gyfer gornest agos. Wrth fatio’n gyntaf, tarodd Swydd Middlesex 221 oddi ar 52 o belawdau cyn i Gymru ymateb gyda 211 wrth i Sisodiya (61 oddi ar 30 o belenni) wneud y rhan fwyaf o’r gwaith. Yn eu hail fatiad, rhoddodd Swydd Middlesex gryn bwysau ar Gymru drwy sgorio 239 oddi ar 44 o belawdau’n unig. Er gwaethaf partneriaeth wiced gyntaf o 94, cafodd Cymru eu bowlio allan o fewn 50 o belawdau am 216 yn unig.

Ymateb

Dywedodd rheolwr perfformiad Criced Cymru, John Derrick: “Mae’n galonogol iawn gweld ambell berfformiad gwych gan ein timau o bob oedran.”