Os cafodd Lloegr ddiweddglo perffaith i sesiwn y bore ar y pedwerydd diwrnod yn erbyn Awstralia yng Nghaerdydd, roedd gwell fyth i ddod iddyn nhw yn ystod y prynhawn.

Roedd Awstralia wedi colli tair wiced gynnar ar ddechrau’r sesiwn wrth iddyn nhw lithro i 106-5. Wrth iddyn nhw golli’r drydedd yn y sesiwn, roedden nhw wedi colli pedair wiced am naw rhediad o fewn 36 o belenni y naill ochr a’r llall i’r egwyl am ginio.

Steve Smith oedd y dyn cyntaf allan wedi’r egwyl, wedi’i ddal gan Ian Bell yn y slip oddi ar fowlio Stuart Broad wrth geisio gyrru trwy’r ochr agored.

Roedd gwaeth i ddod i Awstralia wrth i Michael Clarke ddarganfod dwylo diogel Ben Stokes wrth geisio gyrru’r bêl yn sgwâr oddi ar fowlio Broad, a’r cyfanswm bellach yn 106-4.

Dilynodd Adam Voges yn dynn ar ei sodlau, wrth iddo ddarganfod menyg y wicedwr Jos Buttler oddi ar fowlio Mark Wood, ac roedd Awstralia mewn dyfroedd dyfnion wrth iddyn nhw lithro i 106-5.

Doedd hi ddim yn hir cyn i un o ddaliadau gorau’r ornest waredu ar wicedwr Awstralia, Brad Haddin, a’r cyfanswm yn 122-6. Neidiodd capten Lloegr, Alastair Cook yn ôl fel gôl-geidwad a dal ei afael ar y bêl dros ei ysgwydd ar yr ail gynnig.

Cyrhaeddodd y cyfanswm 150-6 wrth i Mitchell Johnson gyfuno gyda Shane Watson i geisio adfer yr ornest i Awstralia.

Fyddai hi ddim yn ornest y Lludw heb i Shane Watson gwestiynu penderfyniad y dyfarnwr, a dyna’n union wnaeth e wrth i’r bêl daro’i goes oddi ar fowlio Mark Wood – roedd y canlyniad yn anochel braidd, ac roedd Watson ar ei ffordd yn ôl i’r pafiliwn wrth i Awstralia lithro ymhellach i 151-7.

Erbyn diwedd y sesiwn, roedd Awstralia’n 162-7, ac roedd angen 250 yn rhagor arnyn nhw i ennill gyda thair wiced yn weddill.