Bydd Morgannwg yn ceisio osgoi colli am y pedwerydd tro yn olynol yng nghystadleuaeth y T20 Blast wrth iddyn nhw deithio i Taunton ddydd Sul i herio Gwlad yr Haf.
Byddan nhw’n herio dau wyneb cyfarwydd – eu cyn-gapten a phrif hyfforddwr Matthew Maynard, a’u cyn-gapten Jim Allenby.
Morgannwg oedd yn fuddugol y tro diwethaf i’r ddwy sir gyfarfod yn y gystadleuaeth yng Nghaerdydd – a hynny o ddau rediad trwy ddull Duckworth-Lewis ar ddiwedd gornest gafodd ei chwtogi gan y glaw.
Mae Morgannwg bellach yn seithfed yn y tabl, tra bod Gwlad yr Haf yn bumed.
Byddai buddugoliaeth dros Wlad yr Haf yn cadw gobeithion Morgannwg o gyrraedd rownd yr wyth olaf yn fyw.
Yn wir, fe fyddan nhw’n ceisio sicrhau ail fuddugoliaeth o’r bron ar gae Taunton yn dilyn eu llwyddiant yn ne-orllewin Lloegr y tymor diwethaf.
Daeth eu hunig fuddugoliaeth ar gae Taunton mewn gornest ugain pelawd nôl yn 2004 pan darodd Ian Thomas 116, oedd yn record ar y pryd.
Mae’r bowliwr cyflym llaw chwith, Wayne Parnell wedi chwarae ei gêm olaf yn Stadiwm Swalec, ond fe fydd e’n gadael Morgannwg ar ôl yr ornest yn Taunton.
Ar ddiwedd yr ornest yn erbyn Swydd Surrey nos Wener, dywedodd Parnell: “Hoffwn ddiolch i Hugh [Morris, y Prif Weithredwr], Jacques [Rudolph, y capten] a Toby [Radford, y prif hyfforddwr] am fy nghael i yma.
“Mae’r clwb wedi bod yn dda iawn i fi. Dw i wir wedi mwynhau fy amser yng Nghymru. Mae’r Cymry’n gyfeillgar iawn.
“Gobeithio y bydda i’n dychwelyd yn y dyfodol, naill ai gyda De Affrica neu i chwarae i Forgannwg.
“Dw i wir wedi mwynhau yma. Mae [Caerdydd] yn ddinas bert. Maen nhw’n bobol dda ac maen nhw wedi gwneud i fi deimlo’n gartrefol yma.”
Carfan 12 dyn Gwlad yr Haf: J Allenby, J Myburgh, P Trego, J Hildreth, T Cooper, L Ronchi, L Gregory, M Waller, T Groenewald, J Overton, Abdur Rehman, A Thomas (capten)
Tîm Morgannwg: J Rudolph (capten), C Meschede, C Ingram, C Cooke, B Wright, G Wagg, D Lloyd, M Wallace, W Parnell, D Cosker, M Hogan
Bydd yr ornest yn cael ei darlledu’n fyw ar Sky Sports, a’r belen gyntaf yn cael ei bowlio am 2.30yp