Mae Morgannwg wedi trechu Swydd Gaerlŷr o 137 o rediadau yn y Swalec SSE, gan gipio pedwaredd buddugoliaeth o’r bron am y nawfed tro yn unig yn eu hanes.

Dyma’r tro cyntaf iddyn nhw gyflawni’r gamp ers 2004.

Gosododd Morgannwg nod o 324 i’r ymwelwyr yn eu hail fatiad, ond cawson nhw eu bowlio allan am 186.

Dechreuodd yr ymwelwyr y pedwerydd diwrnod ar 75-3, gyda Matthew Boyce a chyn-agorwr Morgannwg, Mark Cosgrove wrth y llain.

Ond buan y dychwelodd yr Awstraliad Cosgrove i’r pafiliwn ar ddechrau’r bore, wedi i’w gydwladwr ganfod ei goes o flaen y wiced.

Dilynodd Jigar Naik ac Andrea Agathangelou yn fuan wedyn, gan ychwanegu 26 o rediadau’n unig rhyngddyn nhw.

Rhoddodd partneriaeth o 56 rhwng Boyce a Niall O’Brien lygedyn o obaith i’r ymwelwyr ond roedd y canlyniad yn ymddangos yn anochel wedi i Boyce ganfod dwylo diogel Chris Cooke oddi ar fowlio Colin Ingram am 60.

Collodd yr ymwelwyr eu pedair wiced olaf am 46 o rediadau, wrth i Hogan, Craig Meschede, Andy Carter, a Graham Wagg orffen gyda dwy wiced yr un.

Yn gynharach yn yr ornest, sgoriodd Wagg 94 i ychwanegu at ei 200 yn erbyn Swydd Surrey yn Guildford, ac fe ychwanegodd Chris Cooke 84 at gyfanswm Morgannwg wrth iddyn nhw gael eu bowlio allan am 278.

Boyce oedd yr unig fatiwr i sgorio hanner canred yn ystod batiad yr ymwelwyr wrth iddyn nhw gael eu bowlio allan am 253.

Cipiodd Hogan gipio tair wiced am 54 i sicrhau blaenoriaeth batiad cyntaf o 25 i Forgannwg.

Y ddau fatiwr o Dde Affrica, Colin Ingram (60) a’r capten Jacques Rudolph (74) oedd prif sgorwyr y Cymry yn eu hail fatiad, ac fe darodd Andrew Salter 54 heb fod allan i gyrraedd ei gyfanswm dosbarth cyntaf unigol gorau erioed.

Daeth batiad Morgannwg i ben wrth iddyn nhw gael eu bowlio allan am 298, gan osod nod o 324 i’r ymwelwyr am y fuddugoliaeth.

Ond roedd y nod yn rhy uchelgeisiol, ac fe orffennodd Morgannwg yr ornest yn y modd gorau posib toc cyn 2.30yp.