Mae Bwrdd Criced yr Alban wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n disgyblu cricedwr oedd wedi awgrymu ar Twitter ei fod wedi’i adael allan o’r garfan ar gyfer Cwpan y Byd am resymau hiliol.
Cafodd Majid Haq ei anfon adref o’r gystadleuaeth yn Awstralia a Seland Newydd ym mis Mawrth yn dilyn y ffrae.
Cafodd y neges ar ei dudalen Twitter ei dileu yn ddiweddarach.
Ar y pryd, dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Criced yr Alban fod Haq wedi ymddwyn yn groes i ysbryd criced.
Ond bellach, mae’n ymddangos fod y ffrae ar ben a bod rhwydd hynt i Haq ddychwelyd i’r garfan.
Haq sydd ar frig y rhestr o fowlwyr sydd wedi cipio’r nifer fwyaf o wicedi dros yr Alban, ac fe gymerodd e ran yn yr orymdaith gyda’r baton cyn dechrau Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow y llynedd.