Sgoriodd Ravi Bopara 81 heb fod allan wrth i Swydd Essex guro Morgannwg o bum wiced yn Stadiwm Swalec heno.
Adeiladodd bartneriaeth o 52 gyda Kishen Velani i osod y seiliau yng nghanol y batiad.
Er gwaethaf toriad o hanner awr wedi i’r llifoleuadau fynd allan, llwyddodd yr ymwelwyr i gynnal y safon ac fe gyrhaeddon nhw’r nod gyda dwy belawd a mwy yn weddill.
Crynodeb
Galwodd yr ymwelwyr yn gywir a gwahodd Morgannwg i fatio’n gyntaf ar lain oedd yn ymddangos yn un digon ffafriol i’r batwyr o’r cychwyn.
Dechrau digon cadarn gafodd Morgannwg wrth iddyn nhw gyrraedd 18-0 yn y drydedd belawd cyn i Mark Wallace golli ei wiced, wedi’i fowlio gan Graham Napier.
Roedd y wiced gyntaf yn golygu dechrau partneriaeth ddigon addawol rhwng y capten Jacques Rudolph a’i gyd-wladwr Colin Ingram, ac fe ddangosodd Ingram ei fwriad yn syth gan daro nifer o ergydion i’r ffin oddi ar Reece Topley, wrth i Forgannwg gyrraedd 62-1.
Ond dychwelodd Ingram i’r cwtsh yn y nawfed belawd, wedi’i ddal gan Topley oddi ar fowlio Bopara am 24.
Aeth 69-2 yn 73-3 wrth i Rudolph gael ei fowlio gan gyn-fowliwr Morgannwg, Shaun Tait, a dilynodd Will Bragg a Craig Meschede yn dynn ar ei sodlau wrth i Forgannwg gwympo i 77-5 o fewn y belawd.
Cipiodd Tait wiced Andrew Salter yn y ddeuddegfed pelawd, a Morgannwg mewn dyfroedd dyfnion ar 83-6.
Daeth rhywfaint o sefydlogrwydd i’r batiad wrth i Graham Wagg ymuno yn y clatsio, a’r Cymry’n 111-7 yn yr unfed belawd ar bymtheg erbyn iddo yntau golli ei wiced am 14.
Arhosodd Cooke yn amyneddgar tan y belawd olaf un, ac fe sgoriodd e 31 cyn colli’i wiced ar ddiwedd y batiad, wrth i Forgannwg orffen ar 144-8.
Er i Forgannwg osod nod ddigon di-nod o 145 i’r ymwelwyr, y Cymry gafodd y gorau o’r ail gyfnod clatsio wrth i Mark Pettini gael ei fowlio gan Michael Hogan yn y belawd gyntaf.
Buan y daeth newid yn y bowlio, a Craig Meschede lwyddodd i gipio wiced hollbwysig Jesse Ryder yn y bedwaredd belawd, ac yntau wedi sgorio 20 yn unig.
Partneriaeth hanfodol o 52 rhwng Bopara a Kishen Velani oedd wedi gosod y seiliau ar gyfer y fuddugoliaeth yng nghanol y batiad, ac roedden nhw’n edrych yn hamddenol tan i Velani gael ei stympio gan Wallace oddi ar Dean Cosker yn ystod y degfed pelawd.
Daeth dau gyfle i redeg batwyr Swydd Essex allan cyn i belawd Cosker ddod i ben, ond roedd y cyfleoedd yn ddi-ffrwyth.
Daeth partneriaeth o 40 rhwng Bopara a Ryan ten Doeschate i ben yn y bedwaredd belawd ar ddeg diolch i ddaliad campus gan Wallace oddi ar fowlio Hogan i gael gwared ar ten Doeschate.
Roedd gwaith caled o flaen Morgannwg o hyd wrth i’r ymwelwyr gyrraedd 106-4, ond fe fu’n rhaid i’r chwaraewyr adael y cae wrth i’r llifoleuadau fynd allan. Pe bai’r ornest wedi dod i ben bryd hynny, byddai’r ymwelwyr wedi ennill ar system Duckworth-Lewis beth bynnag.
Doedd y toriad ddim yn ddigon i darfu ar ganolbwyntio’r ymwelwyr ac fe sicrhaon nhw’r fuddugoliaeth o bum wiced gydag ychydig dros ddwy belawd yn weddill.
Mae’r canlyniad heno’n golygu bod Morgannwg wedi ennill un a cholli un yn y gystadleuaeth hyd yn hyn y tymor yma.
Ymateb
Ar ddiwedd y noson, dywedodd is-hyfforddwr Morgannwg, Robert Croft ei fod yn teimlo bod y sir yn brin o rediadau wedi iddyn nhw fatio’n gyntaf.
“Collon ni’n ffordd yng nghanol ein batiad ni ac o’n ni’n siarad cyn y gêm fod e’n beth pwysig iawn bo ni’n cael partnerships da ma’s o ganol ein batiad ni.
“Cyn y gem, o’n siarad am sgorio 160 neu rywbeth fel’na. O’n ni’n meddwl bod y llain yn mynd i roi 150 o rediadau felly os o’n ni’n gallu sgorio 160, o’n ni yn y gêm.”
Mae sylw Morgannwg yn troi nawr at yr ornest yn erbyn Swydd Hampshire yn Stadiwm Swalec nos Wener nesaf, ac ym marn Croft, mae’n bwysig codi ysbryd y chwaraewyr yn dilyn y golled.
“Ni’n siomedig achos y’n ni wedi cael wythnos arbennig o dda yn y Bencampwriaeth ac o’n ni’n meddwl bo ni’n mynd i gael un perfformiad arall mas o’r bois.
“Rhaid i fi ddweud bo nhw’n blino achos sdim carfan fawr gyda ni. Rhaid i ni bigo’r un bois i fynd nol ar y cae bob tro. Mae tipyn bach o amser off gyda ni nawr.
“Ni’n gwybod le y’n ni’n mynd, a’r peth pwysig nawr yw edrych ymlaen i’r gêm nesaf a pharatoi. Ni’n gwybod bo ni’n dîm cryf yn y gystadleuaeth hyn.
“Cadw’r ysbryd lan yw’r peth pwysig a chanolbwyntio ar beth y’n ni wedi gwneud yn dda.”