Mae hyfforddwyr Morgannwg wedi canmol perfformiad y chwaraewyr yn dilyn eu buddugoliaeth o 90 o rediadau yn erbyn Swydd Essex yn Stadiwm Swalec heddiw.

Roedd angen 364 o rediadau ar yr ymwelwyr i sicrhau’r fuddugoliaeth ar y diwrnod olaf, ond cawson nhw eu bowlio allan am 294.

Ryan ten Doeschate (74 heb fod allan) oedd yr unig berfformiwr o nod i’r ymwelwyr gyda’r bat wrth i fowlwyr Morgannwg fanteisio ar lain oedd yn ffafrio’r troellwyr yn hwyr yn yr ornest.

Gorffennodd y troellwr ifanc Andrew Salter gyda ffigurau gorau ei yrfa – 3-54.

Andrew Salter

Dywedodd is-hyfforddwr Morgannwg, Robert Croft: “O’dd ddim lot o droi yn y llain, ac i fowlio yn erbyn [Ryan] ten Doeschate a James Foster, maen nhw’n fatwyr arbennig o dda yn erbyn troellwyr.

“Yn y safle o’n ni ar y dydd, o’n ni moyn ennill y gêm. Siwr o fod roedd tipyn o bwysau arno fe [Salter] a gobeithio bod e wedi cael tipyn bach o brofiad allan o’r perfformiad hyn ac yn gallu canolbwyntio ar y gêm nesa.”

Er bod Salter wedi sefyll allan, roedd Croft yn barod i gydnabod ysbryd a chymeriad y tîm cyfan wrth sicrhau’r fuddugoliaeth sy’n eu codi i’r trydydd safle yn y tabl.

“O’dd e’n gêm gyffrous a gêm galed. O’dd y llain yn testo pawb, o’dd e’n helpu’r bowlwyr cyflym mwy na’r bois gyda’r bat yn eu dwylo nhw.

“Ond o’dd e’n gêm galed iawn ac o’dd y bois i gyd wedi dangos llawer o ‘character’ mas ‘na.

“Fi’n credu bo nhw [batwyr Swydd Essex] wedi dysgu tipyn bach wrthon ni yn y ffordd o’n ni wedi whare prynhawn ddoe. O’dd e’n bwysig iawn i batio’n bositif ar y llain ‘na.

“Wharaeon nhw yn yr un ffordd heddi. Ond fel tîm, y’n ni’n hapus bo ni wedi ennill ein gêm gyntaf.”

Cymeriad

Yn ôl y prif hyfforddwr Toby Radford, bydd cymeriad y garfan yn hollbwysig yn ystod cyfnod yn y tymor pan fydd rhaid cyfnewid yn gyson rhwng y Bencampwriaeth a’r T20.

“Ry’n ni wrth ein bodd gyda’r fuddugoliaeth. Fe gawson ni bedair gêm gyfartal wrth fynd i mewn i’r gêm.

“Roedden ni bob amser o’r farn fod y fuddugoliaeth rownd y gornel. O’r diwedd, fe wnaethon ni droi’r gornel – roedd yn bedwar diwrnod caled.

“Wnaethon nhw [Swydd Essex] ddim ildio heddiw, a doedden ni ddim yn disgwyl iddyn nhw chwaith.

“Roedd rhaid i ni weithio’n galed dros ben i gyrraedd y diwedd.

“Roedd cymaint o gyfranwyr yn y gêm hon a dyna’r peth oedd wedi’n plesio ni’n fawr o’n safbwynt ni.

“Mae’n wych gan ei fod yn rhoi hyder i gymaint o bobol ar gyfer gemau’r dyfodol.

“Mae gyda ni Swydd Northampton ymhen wythnos, ac ry’n ni’n dechrau’r T20 fory.

“Mae’n dda bob amser i gael nifer o bobol yn sgorio rhediadau a phobol â hyder gyda’r bêl i gipio wicedi.”