Rhoddodd Dean Cosker a Craig Meschede lygedyn o obaith i Forgannwg wrth iddyn nhw geisio achub yr ornest Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Surrey ar y trydydd diwrnod.

Torrodd Cosker a Meschede y record am y bartneriaeth nawfed wiced orau yn erbyn y sir – 119 – gan faeddu’r 88 roedd yr is-hyfforddwyr presennol, Robert Croft a David Harrison wedi sgorio ar gae Sain Helen yn 2006.

Roedd Morgannwg yn 293-7 ar ddechrau’r bartneriaeth, ond fe ddaeth i ben yn fuan cyn diwedd y dydd, wrth i Jason Roy ganfod coes Cosker (19) o flaen y wiced, a Morgannwg yn 412-9.

Cyrhaeddodd Meschede ei gant yn ddiweddarach gyda sengl oddi ar ergyd i’r awyr a laniodd yn ddiogel ar ochr y goes.

Mae’r canred yn golygu bod Meschede wedi sgorio’i gyfanswm unigol dosbarth cyntaf gorau erioed – 101 heb fod allan – gan drechu’r 62 blaenorol.

Diwrnod o faesu oedd o flaen Kevin Pietersen heddiw, wrth i Forgannwg ddechrau’r diwrnod ar 124-2, wrth ymateb i gyfanswm yr ymwelwyr o 563-7 yn y batiad cyntaf.

Dechrau digon cadarn i’r batiad gafodd Morgannwg wrth i’r capten Jacques Rudolph daro 69, ac fe gyfrannodd Colin Ingram 56 i’r cyfanswm yn ystod y trydydd bore.

Daeth Chris Cooke (20) o dan y chwyddwydr hefyd, wrth iddo gael ei redeg allan gan dafliad uniongyrchol syfrdanol at y wiced gan Zafar Ansari o 75 llathen.

Cafodd Morgannwg eu bowlio allan am 419, a’r ymwelwyr wedi sicrhau blaenoriaeth batiad cyntaf o 144.