Mae batiwr rhyngwladol Swydd Surrey, Kumar Sangakkara wedi canmol ei gyd-fatiwr Steven Davies ar ôl i’r ddau adeiladu partneriaeth o 294 yn ystod batiad cyntaf yr ymwelwyr yn erbyn Morgannwg yn Stadiwm Swalec.

Roedd yr ymwelwyr yn 104-1 pan ddaeth Sangakkara i’r llain, ac wedi cyrraedd 444-4 erbyn iddo golli’i wiced ar ôl sgorio 149. Roedden nhw’n 563-7 pan benderfynon nhw gau’r batiad.

Y prif sgoriwr, fodd bynnag, oedd Steven Davies, a darodd 200 heb fod allan – ei gyfanswm unigol gorau erioed mewn gornest ddosbarth cyntaf.

Ar ddiwedd yr ail ddiwrnod, dywedodd Sangakkara ei fod yn llawn edmygedd o’r chwaraewr ifanc.

“Daeth Steven i mewn a phrin iawn roedd e’n edrych mewn trafferth. Roedd e’n edrych yn esmwyth o’r belen gyntaf.

“Drwy gydol ei fatiad, y peth allweddol oedd nad oedd e’n edrych mewn trafferth. Roedd ei ganred dwbl cyntaf yn dipyn o gyflawniad ac roedd yn wych cael ei wylio.

“Fel batiwr, rydych chi bob amser yn credu ynddoch chi’ch hunan y byddwch chi’n sgorio rhediadau ac rydych chi’n ymfalchïo yn y ffaith. Dydy e ddim yn gweithio bob tro ond pan fydd e’n gweithio, rydych chi’n gwneud y gorau o’r peth ac yn gwneud iddo gyfri felly ro’n i’n hapus iawn.”

Fel wicedwr o safon byd eang, mae Sangakkara ymhlith yr ychydig rai sy’n gymwys i benderfynu a yw Davies yn ddigon da i gael ei ddewis fel batiwr arbenigol.

“Os ydych chi’n wicedwr sy’n chwarae mewn gemau pedwar diwrnod neu gemau prawf, mae’n jobyn anodd i fatio yn y pump uchaf – mae chwech neu saith yn ddelfrydol ar gyfer wicedwr. Rydych chi’n blino, yn enwedig yn ystod tymor hir.

“Dim ond ei fod e [Steven Davies] yn hapus gyda’r [cyfrifoldeb] ychwanegol ac yn gyfforddus gyda’r safle batio a sut mae’n batio, fe fydd e’n iawn.

“Os gall rhywun fatio cystal â hynny, yna mae’n fatiwr arbenigol.

“Mae’n dal i fod yn ifanc. Dw i’n cofio mor anodd ro’n i’n ei gael e pan o’n i’n ifanc ond mae’n gwneud i’r cyfan edrych yn hawdd. Mae tipyn i’w edmygu am Steven.

‘KP’

Yn sicr, fe wnaeth Sangakkara a Davies dynnu’r sylw’r wasg – ar y cae beth bynnag – oddi ar Kevin Pietersen, y dyn yr oedden nhw i gyd wedi dod i’w weld.

Tan ddydd Sul, doedd Pietersen ddim wedi chwarae mewn gêm Bencampwriaeth ers 2013. Roedd e’n barod am her y Swalec ar ôl taro 170 yn erbyn Prifysgol Rhydychen yr wythnos diwethaf, ac roedd y brifddinas yn barod amdano fe.

“Nid dim ond y wasg Seisnig [sy’n creu cynnwrf].

“Y gwir yw fod gyda chi chwaraewr gwych sydd wedi cael sylw amheus ac fe fu straen yn ei berthynas â’r ECB.

“Mae’n sicr fod y dorf am weld KP allan yn y canol.

“Pan fo gyda chi chwaraewr o’r safon a’r gallu yna, byddai hyd yn oed ei gyd-chwaraewyr am ei gael e yn y tîm. Dwi jyst yn gobeithio y byddan nhw’n cymodi.

“Dw i’n gwybod o chwarae yn erbyn Kevin pan ddaeth e i Sri Lanca gyda Lloegr y tro diwethaf, roedd Lloegr ar ei hôl hi o 1-0 ac fe ddaeth Kevin Pietersen i mewn a dwyn yr ail brawf oddi arnon ni gyda chanred. Mae e’n rhagorol.

“Mae e’n un sy’n gallu ennill gemau. Dw i am wylio chwaraewyr sy’n gallu ennill gemau allan yn y canol, a dw i am gael rhywun sy’n gallu ennill gemau yn fy nhîm.”