Daeth gornest Morgannwg yn erbyn Gwlad yr Haf yn y T20 Blast i ben heb i’r un belen gael ei bowlio yn Stadiwm Swalec heno.

Roedd y dyfarnwyr Mark Benson a Graham Lloyd wedi gobeithio gallu cychwyn hanner awr yn hwyr am 7yh, ond pan ddaeth rhagor o law, roedd diweddglo cynnar yn anochel.

Mae’r ddwy sir yn rhannu’r pwyntiau cyn i Forgannwg deithio i Fae Colwyn i herio Swydd Surrey yn ail adran y Bencampwriaeth ddydd Sul.

Yn dilyn y canlyniad heno, bydd Morgannwg yn gobeithio y gall Swydd Gaerloyw guro Swydd Sussex, sy’n gallu codi uwchben y Cymry pe baen nhw’n ennill.